<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



20,000 erthygl ar y Wicipedia (Y Wikipedia Cymraeg)

24.11.08

Ar y diwrnod y cyhoeddwyd bod y Gymraeg wedi ei defnyddio yn swyddogol am y tro cyntaf wrth annerch Cyngor y Gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd, fe gyrhaeddwyd carreg filltir arall hefyd, gan i'r Wicipedia gyrraedd 20,000 erthygl.

Dw i'n hoff iawn o'r Wicipedia, ac er mod i'n cyfrannu un neu ddau erthygl nawr ac yn y man, dw i'n tueddu gwneud pethau fel twtio iaith, trwsio dolenni, a chategoreiddio erthyglau'n bennaf.

I geisio denu ychydig o sylw i'r Wicipedia - ac hefyd gobeithio denu mwy o gyfranwyr, mae rhai o'r golygwyr wedi ceisio llunio rhyw ddatganiad bach, sydd wedi ei danfon i bapurau a chylchgronau. os ydych yn nabod rhywun sy'n debygol o fod a rhyw ddylanwad - boed yn bapur newydd neu'n bapur bro, plîs, pasiwch hwn ymlaen;

20,000 O ERTHYGLAU CYMRAEG AR-LEIN

Mae’r Wicipedia Cymraeg (http://cy.wikipedia.org), gwyddoniadur rhydd ar-lein sy'n rhan o gywaith Wikipedia, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei hanes, sef 20,000 o erthyglau.

Er nad yw nunlle’n agos i’r 2 filiwn a rhagor o erthyglau sydd ar ei gefnder, y Wikipedia Saesneg, mae’n dipyn o gamp o ystyried y gwahaniaeth yn y nifer o siaradwyr.

Gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am ychwanegu cynnwys ar y wefan, mae croeso i unrhyw un gyfrannu ac mae criw cyfeillgar o olygwyr wrth law yn 'Y Caffi' i ateb unrhyw gwestiynau gan newydd ddyfodiaid.

Mae amrediad eang o erthyglau sydd ddim wedi eu cyfyngu i bynciau am yr iaith Gymraeg na Chymru yn unig. Yn wir, bwriad y Wicipedia yw darparu ystod eang o erthyglau am bob pwnc dan haul, ac mae eisoes yn cynnwys gwybodaeth am bynciau na chafwyd ymdriniaeth amdanynt yn Gymraeg o'r blaen. Ein gobaith yn y tymor hir yw tyfu i fod y gwyddoniadur Cymraeg mwyaf cynhwysfawr ac amrywiol erioed.

*Yr 20,000fed erthygl i ymddangos oedd Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984

*Dechreuodd y Wicipedia Cymraeg ym mis Gorffennaf 2003 ,

*Ymhlith yr erthyglau ar y Wicipedia mae Diwydiant llechi Cymru, Apartheid ac India

Pan rois gyflwyniad am wefannau cymdeithasol Cymraeg yn Awst 2007, roedd 10,558 erthygl (sleid 27), felly mae'r Wicipedia wedi dyblu ers hynny.

Angen ysbrydoliaeth?
Os ydych wedi bod eisiau cyfrannu ond ddim yn siwr sut, neu am beth i ysgrifennu, gadewch i mi wybod. Byddai'n dda cael rhai o'r blogwyr Cymraeg tramor i greu/ehangu ar erthyglau am yr ardaloedd maent yn byw neu'n dod ohonynt yn wreiddiol. Dw i'n ceisio argyhoeddi ffrind o'r Almaen sy'n dysgu Cymraeg y byddai'n ymarfer da iddi greu erthygl am ei thref genedigol sef Passau. Gall gyfieithu darn o'r erthygl Saesneg neu Almaeneg, ac hyd yn oed os ydy hi'n gwneud camgymeriad gyda'r iaith (er bod ei Chymraeg yn ardderchog), mae'n hawdd i olygwyr eraill ei gywiro. Beth sy'n dda am Wicipedi, ydy y gallwch gymharu newidiadau.

Cefais fy ysbrydoli i greu erthygl am Evan Jones ar ôl darllen amdano ar flog Emma Reese. Fe gyfieithodd Evan Jones y beibl i'r iaith Cherokee, ac fe soniodd Emma wedyn bod arwyddion yn yr iaith Cherokee yn ei thref hi, sef Tahlequah, Oklahoma. Plagiais Emma am luniau, a dyma hi'n danfon rhain ataf, sydd nawr yn ymddangos ar erthyglau am dref Tahlequah a'r iaith Cherokee.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:23 pm

4 sylw:

Llongyfarchiadau! Sa i'n teimlo fod fy nghymraeg digon da i allu pori'r wicipedia, ond ma 20,000 yn nifer rhagorol!
sylw gan Anonymous Anonymous, 11:17 pm  

Rhyw ddiwrnod, ychwanegaf erthygl amdanaf fy hun...
sylw gan Blogger Chris Cope, 8:35 pm  

Tydy o ddim y 'done thing' sgwennu erthyglau am chi eich hunain....peswch-Sanddef-peswch.

Byddai ehangu ar erthygl Minnesota e.e. yn gaffaeliad.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:49 am  

"Tydy o ddim y 'done thing' sgwennu erthyglau am chi eich hunain....peswch-Sanddef-peswch."

Ond nid y fo nath, medda fo.

Ai fi sy'n sinicaidd yn dweud 'do, heb amheuaeth'?
sylw gan Blogger Hogyn o Rachub, 10:40 am  

Gadawa sylw