<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Tango olaf yn yr Eisteddfod / £200 am ysgrifennu [cofnod] blog

27.7.08

Dw i'n bwriadu mynd i'r Eisteddfod ar y dydd Mawrth ac wedi trefnu cwrdd â'm dosbarth Cymraeg yno, i nifer fawr ohonynt dyma fydd eu Eisteddfod cyntaf. Fel abwyd i'r rhai sydd ddim yn siwr os ydynt am ddod, dw i wedi dweud wrthynt bydd modd iddynt fy ngwylio'n gwneud tit o'm hun yn dawnsio'r Tango. Mae Walter, sydd o Batagonia'n rhoi sesiynau blasu yn Maes D, ac mae Sarah eisiau i mi ddysgu dawnsio. Gwae!

Cefais gip ar raglen yr Eisteddfod, ac ar y dydd Mercher mae beiriniadaeth cystadleuaeth 'Blog (dim mwyn na 200 o eiriau)', ar wobr yw £200. Y beriniad fydd ryw Lyn Lewis Dafis - pwy bynnag ydi hwnnw!
Mae'n rhy hwyr i gystadlu rwan mae'n siwr, ond byddai wedi bod yn ddiddorol gweld sut ddylai'r gwaith gael ei gyflwyno. Os nad ar ffurf blog electroneg go iawn (hyd yn oed un dim ond wedi ei greu yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth) yna siawns mai dim ond darn o waith llenyddol arferol fyddai, gan na fyddai modd gadael sylw na rhoi unrhyw ddolenni. Efallai y bydd Dogfael yn blogio am y peth ar ôl Eisteddfod wedi i'r ennillydd gael ei enw, a caf ei holi bryd hynny. Dw i'n berson anal ofnadwy, ond dw i ddim yn hoffi'r arferiad o alw cofnod blog, neu blogiad yn 'blog'. I fi, blog yw'r holl wefan, ond mae'n arferiad cyffredin dw i'n derbyn.
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:59 pm | dolen | 7 sylw |

Newyddion syfrdanol: Papur Sul yn rhoi sylw i Gymru

21.7.08

Prynnias yr Observer am y tro cyntaf ers amser maith (yn wir allai'm cofio pryd brynniad u rhyw bapur newydd ddiwetha), ac er mawr syndod rhoddwyd bron i dudalen lawn i erthygl yn ymwneud a gwleidyddiaeth Cymru, a Plaid Cymru. Mae hyn yn rhywbeth go anghyffredin. Ond cyn i chi wirioni'n lân, pwnc yr erthygl oedd y ffaith bod cyn-actores o'r ffilm Life of Brian, Sue Jones-Davies, rwan yn faeres tref Aberystwyth, a bod y ffilm wedi ei gwahardd yn y dref (dw i ddim yn siwr sut na gan bwy).

New role for Python star: lifting ban on Life of Brian

Sue Jones-Davies had no powers as Brian's girlfriend but as Aberystwyth mayor she has vowed to end the town's curbs on the film.

Hyd yn oed mewn erthygl di-ddim fel hyn (sydd rhywsut yn cael ei chyfrif fel stori adran 'Local Politics'), mae nhw'n llwyddo cael ffaith yn anghywir.

Like many towns in Wales in the Seventies, Aberystwyth was dominated by the church...

Chapels surley? O wel, gwell lwc tro nesaf daw stori mor fawr o Gymru.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:54 am | dolen | 0 sylw |

Gwyl Gwrw symudol: Dyffryn Clwyd 19 o Orffennaf

8.7.08

Diddorol yw darllen yn y Free Press am ŵyl gwrw newydd unigryw yn nyffryn Clwyd. Yn hytrach na chael yr holl gwrw mewn un lle, mae'r ŵyl yn cymeryd lle mewn saith tafarn wahanol, i gyd ar lwybr bws rhif 76 rhwng Dinbych a Rhuthun.
Seven pubs on the bus route 76 are organising what is hoped to be the first of many annual beer festivals.

The local public bus service 76, connecting the pub route to Denbigh and Ruthin, has been increased for the day.

And a rover ticket made available, costing the same price as a pint, to enable visitors to move freely from one pub to the next.

The festival will take place on Saturday, July 19 from midday, just hop on the bus at either of the towns or at any of the pubs.

The pubs taking part in the festival are; Kinmel Arms, Llandyrnog; Golden Lion, Llandyrnog; White Horse, Llandyrnog; White Horse, Hendrerwydd; Golden Lion, Llangynhafal; Griffin Inn, Llanbedr DC and the Three Pigeons at Graigfechan.
Dwi'n hoffi'r syniad o gydweithio rhwng tafanrdai ac hefyd bod tocyn bws arbennig yn mynd i fod ar gael. Efallai gwnaiff annog mwy o bobl i ddefnyddio bws a mynd am beint i dafarndai cefn gwlad. Tydw i heb fod am beint yn yr ardal ers achau, ac yn nhref Dinbych byddwn i dypyca o fynd fel rheol. Mae tref Dinbych ei hun yn tipyn o ddifeithdir cwrw-go-iawn, felly mae'r erthygl yma'n rhoi syniad i mi o ble i ymweld â nhw yn y dyfodol.

Dyma ddolen at amserlen bws arbennig ar gyfer yr ŵyl (PDF).

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:15 am | dolen | 2 sylw |

Yr hawl i fwyd

2.7.08

Mae llawer yn meddwl bod fy safbwyntiau gwrth-archfarchnad yn eithafol braidd. Er mod i'n mynd i'r gangen Somerfield weithiau, dwi'n tueddu gwenud y mwyafrif o'm siopa mewn siopau annibynnol lleol i mi. Dwi'n gwneud hyn am sawl rheswm, sef er mwyn cadw busnesau bychain lleol i fynd, am fy mod yn credu mewn amrywiaeth a tydi popeth ddim yn rhatach mewn archfarchnad o bell ffordd. Dwi wrth gwrs yn anhapus iawn gyda'r modd mae archfarchnadoedd yn trîn eu cyflenwyr a'r ffordd mae'nt yn hoff o herio dymuniadau awdurdodau leol a chanolog.

Ond y prif bryder sydd gyda fi yw am y dyfodol. Dwi ddim yn meddwl mod i'n gor-ddweud, ond fe all fod gan y cwmnau mawrion benderfynnu pa bethau y cawn a chawn ni ddim brynnu. Syml medde chi, "dos i siop arall sydd yn gwerthu beth ti eisiau", dyna wedi'r cyfan yw mantais cyfalaffiaeth - bydd rhwyun yn rhywle wastad yn gweld bwlch yn y farchnad. Ond beth os yw'r cwmniau mawrion wedi lladd pob cystadleuaeth ac yn fodlon gwneud unrhywbeth i atal rhai eraill i gymeryd eu lle. Ydw i'n paranoid?

Darllenais stori'n ddiweddar o dan y pennawd Wimbledon Fans Arrested For Cutlery, sef sôn am dau berson yn cael eu harestio am fynd a chyllill a ffyrc i fwyta pryd o fwyd tra'n gwylio'r tenis, sy'n ddiawl o beth wrs gwrs - ond beth gythruddodd fi oedd rhan arall yr erthygl, ble soniwyd am swyddogion diogelwch yn mynd a bwyd oddiwrth pobl, am nad oeddynt gan noddwyr swyddogol y gystadleuaeth.

Security guards at the tournament were also confiscating drinks and snacks given free to queuing spectators.

Innocent smoothies, Rubicon fruit juice and Jordan's cereal bars were among the items taken off people.

Binoculars and radios offered with newspapers were also removed.

Wimbledon chiefs have banned the freebies to protect multi-million pound sponsorship deals with brands such as Robinsons.

......

A spokesman for Wimbledon is reported to have said: "We have to protect the integrity of our sponsors".

Rwan, fyddwn i byth yn meiddio mynd a bwyd fy hun i fwyty, na chwrw fy hun i dafarn, ond mae'r arferiad yma o wahardd pobl rhag mynd ag unrhyw fwyd na diod (hyd yn oed di-alcohol) i ddigwyddiadau yn warthus yn fy marn i - yn enwedig os yw pobl wedi talu crocbris i fynd mewn yn y lle cyntaf.

Does dim cysylltiad rhwng archfarchnadoedd a'r digwyddiadau yma yn Wimbledon i fod yn deg, ond mae'n gwneud i fi feddwl pa mor bell aiff cwmniau i warchod o buddiannau nhw yn y dyfodol, a faint o'n hawliau fyddwn i'n fodlon eu colli?

Mae Rhys Llwyd wedi gweld i'r dyfodol yn barod!

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:47 am | dolen | 0 sylw |