<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gwyl Gwrw symudol: Dyffryn Clwyd 19 o Orffennaf

8.7.08

Diddorol yw darllen yn y Free Press am ŵyl gwrw newydd unigryw yn nyffryn Clwyd. Yn hytrach na chael yr holl gwrw mewn un lle, mae'r ŵyl yn cymeryd lle mewn saith tafarn wahanol, i gyd ar lwybr bws rhif 76 rhwng Dinbych a Rhuthun.
Seven pubs on the bus route 76 are organising what is hoped to be the first of many annual beer festivals.

The local public bus service 76, connecting the pub route to Denbigh and Ruthin, has been increased for the day.

And a rover ticket made available, costing the same price as a pint, to enable visitors to move freely from one pub to the next.

The festival will take place on Saturday, July 19 from midday, just hop on the bus at either of the towns or at any of the pubs.

The pubs taking part in the festival are; Kinmel Arms, Llandyrnog; Golden Lion, Llandyrnog; White Horse, Llandyrnog; White Horse, Hendrerwydd; Golden Lion, Llangynhafal; Griffin Inn, Llanbedr DC and the Three Pigeons at Graigfechan.
Dwi'n hoffi'r syniad o gydweithio rhwng tafanrdai ac hefyd bod tocyn bws arbennig yn mynd i fod ar gael. Efallai gwnaiff annog mwy o bobl i ddefnyddio bws a mynd am beint i dafarndai cefn gwlad. Tydw i heb fod am beint yn yr ardal ers achau, ac yn nhref Dinbych byddwn i dypyca o fynd fel rheol. Mae tref Dinbych ei hun yn tipyn o ddifeithdir cwrw-go-iawn, felly mae'r erthygl yma'n rhoi syniad i mi o ble i ymweld â nhw yn y dyfodol.

Dyma ddolen at amserlen bws arbennig ar gyfer yr ŵyl (PDF).

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:15 am

2 sylw:

Rydw i'n hoffi'r syniad 'ma. Er, pryderaf am bobl fel fy hun sydd ganddyn nhw tiny bladder. Efallai bydd lloriau'r bws yn wlyb erbyn gorffen yr ŵyl.
sylw gan Blogger Chris Cope, 11:45 am  

Www, nes i ddim meddwl am hynny, dw i diddoef yr un fath hefyd.

Mae penwythnos stag fy nghefnder yn Llangollen ar y penwythnos, a dwi ddim yn edrych ymlaen i'r daith bws mini adref i dŷ fy rhieni (tua 45 munud i ffwrdd) ar ddiwedd y nôs.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:59 pm  

Gadawa sylw