<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Yr hawl i fwyd

2.7.08

Mae llawer yn meddwl bod fy safbwyntiau gwrth-archfarchnad yn eithafol braidd. Er mod i'n mynd i'r gangen Somerfield weithiau, dwi'n tueddu gwenud y mwyafrif o'm siopa mewn siopau annibynnol lleol i mi. Dwi'n gwneud hyn am sawl rheswm, sef er mwyn cadw busnesau bychain lleol i fynd, am fy mod yn credu mewn amrywiaeth a tydi popeth ddim yn rhatach mewn archfarchnad o bell ffordd. Dwi wrth gwrs yn anhapus iawn gyda'r modd mae archfarchnadoedd yn trîn eu cyflenwyr a'r ffordd mae'nt yn hoff o herio dymuniadau awdurdodau leol a chanolog.

Ond y prif bryder sydd gyda fi yw am y dyfodol. Dwi ddim yn meddwl mod i'n gor-ddweud, ond fe all fod gan y cwmnau mawrion benderfynnu pa bethau y cawn a chawn ni ddim brynnu. Syml medde chi, "dos i siop arall sydd yn gwerthu beth ti eisiau", dyna wedi'r cyfan yw mantais cyfalaffiaeth - bydd rhwyun yn rhywle wastad yn gweld bwlch yn y farchnad. Ond beth os yw'r cwmniau mawrion wedi lladd pob cystadleuaeth ac yn fodlon gwneud unrhywbeth i atal rhai eraill i gymeryd eu lle. Ydw i'n paranoid?

Darllenais stori'n ddiweddar o dan y pennawd Wimbledon Fans Arrested For Cutlery, sef sôn am dau berson yn cael eu harestio am fynd a chyllill a ffyrc i fwyta pryd o fwyd tra'n gwylio'r tenis, sy'n ddiawl o beth wrs gwrs - ond beth gythruddodd fi oedd rhan arall yr erthygl, ble soniwyd am swyddogion diogelwch yn mynd a bwyd oddiwrth pobl, am nad oeddynt gan noddwyr swyddogol y gystadleuaeth.

Security guards at the tournament were also confiscating drinks and snacks given free to queuing spectators.

Innocent smoothies, Rubicon fruit juice and Jordan's cereal bars were among the items taken off people.

Binoculars and radios offered with newspapers were also removed.

Wimbledon chiefs have banned the freebies to protect multi-million pound sponsorship deals with brands such as Robinsons.

......

A spokesman for Wimbledon is reported to have said: "We have to protect the integrity of our sponsors".

Rwan, fyddwn i byth yn meiddio mynd a bwyd fy hun i fwyty, na chwrw fy hun i dafarn, ond mae'r arferiad yma o wahardd pobl rhag mynd ag unrhyw fwyd na diod (hyd yn oed di-alcohol) i ddigwyddiadau yn warthus yn fy marn i - yn enwedig os yw pobl wedi talu crocbris i fynd mewn yn y lle cyntaf.

Does dim cysylltiad rhwng archfarchnadoedd a'r digwyddiadau yma yn Wimbledon i fod yn deg, ond mae'n gwneud i fi feddwl pa mor bell aiff cwmniau i warchod o buddiannau nhw yn y dyfodol, a faint o'n hawliau fyddwn i'n fodlon eu colli?

Mae Rhys Llwyd wedi gweld i'r dyfodol yn barod!

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:47 am

0 sylw:

Gadawa sylw