<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Tango olaf yn yr Eisteddfod / £200 am ysgrifennu [cofnod] blog

27.7.08

Dw i'n bwriadu mynd i'r Eisteddfod ar y dydd Mawrth ac wedi trefnu cwrdd â'm dosbarth Cymraeg yno, i nifer fawr ohonynt dyma fydd eu Eisteddfod cyntaf. Fel abwyd i'r rhai sydd ddim yn siwr os ydynt am ddod, dw i wedi dweud wrthynt bydd modd iddynt fy ngwylio'n gwneud tit o'm hun yn dawnsio'r Tango. Mae Walter, sydd o Batagonia'n rhoi sesiynau blasu yn Maes D, ac mae Sarah eisiau i mi ddysgu dawnsio. Gwae!

Cefais gip ar raglen yr Eisteddfod, ac ar y dydd Mercher mae beiriniadaeth cystadleuaeth 'Blog (dim mwyn na 200 o eiriau)', ar wobr yw £200. Y beriniad fydd ryw Lyn Lewis Dafis - pwy bynnag ydi hwnnw!
Mae'n rhy hwyr i gystadlu rwan mae'n siwr, ond byddai wedi bod yn ddiddorol gweld sut ddylai'r gwaith gael ei gyflwyno. Os nad ar ffurf blog electroneg go iawn (hyd yn oed un dim ond wedi ei greu yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth) yna siawns mai dim ond darn o waith llenyddol arferol fyddai, gan na fyddai modd gadael sylw na rhoi unrhyw ddolenni. Efallai y bydd Dogfael yn blogio am y peth ar ôl Eisteddfod wedi i'r ennillydd gael ei enw, a caf ei holi bryd hynny. Dw i'n berson anal ofnadwy, ond dw i ddim yn hoffi'r arferiad o alw cofnod blog, neu blogiad yn 'blog'. I fi, blog yw'r holl wefan, ond mae'n arferiad cyffredin dw i'n derbyn.
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:59 pm

7 sylw:

Mae yn gwestiwn da: Ar bapur, beth mae gwahaniaeth rhwng cofnod blog a chofnod dyddiadur?

£200?! Ti'n siwr? Nid £20? Uffach, hoffwn i wedi gwneud cais am hyn. Er, mae gennyf duedd ysgrifennu rhagor na 200 gair.
sylw gan Blogger Chris Cope, 4:00 pm  

Does dim lot o wahaniaeth rhwng ysgrif neu erthygl mewn cylchgrawn a chofnod blog mewn gwirionedd oes e?! - dim ond bod cofnod blog yn cal ei gyhoeddi ar y we.

Dyw 200 o eiriau ddim yn lot odi fe - wi'n dueddol o falu cachu am lot fwy na 'ny. Ma'r neges fach hon yn mynd dros 50 o eiriau, felly bysa na ddim gobaith caneri gyda fi :-)
sylw gan Blogger Cer i Grafu, 8:23 pm  

Ma hwn yn wirtion bost. Beth yw'r canllawiau? Be ydi 'cofnod blog da' beth bynnag? Nifer o ymatebion, nifer o ddarllenwyr, ysgogiad trafodaeth rhywle arall, ysgogiad rhywbeth i ddigwydd yn y byd? Neu dim ond darn da o sgwennu, wedi ei anelu at gynulleidfa ar y we? Os taw'r olaf ydi o, yna does dim gwahaniaeth rhyngtho ac unrhyw waith llenyddol byr arall. Wedi'r cyfan, nid dyddiadur yw pob blog naci? Safbwynt, yw'r rhan fwyaf hyd ag y gwela i, ac mae eraill yn ffuglen, eraill yn gyflwyniad pur at wybodaeth sydd mewn mannau eraill ar y we.

Os na ydi'r gwaith sy'n cael ei gyflwyno fel un rhan, cofnod blog gorau efallai, o flog ehangach yna mae'r holl beth yn hollol ddibwynt. Er, ella bod pwynt tri oam £200. Ond dwi'n gweld nad ydi'r gystadleuaeth yn rhedeg eto flwyddyn nesa. Cystadleuaeth darllen cofnod blog sydd flwyddyn nesa!! Mam bach.

O ran defnydd y term blog am gofnod blog, ma jest yn rong dydi.

Hei ma hyn fel cyfarfod AA old-fogeys y Rhithfro. Cymdeithas blogwyr blin Cymru (CBBC).
sylw gan Blogger Nwdls, 7:47 am  

Ymddiheuriadau, ges i'r rhif geiriau'n anghywir, uchafswm o 2,000 ydi o nid 200. Ond £200 yw'r wobr.

O edrych ar y cystadeluthau eraill sy'n cael eu barnu yr un adeg, mae sawl sy'n swnio'n ddiddorol - byyddwn wedi ystyried cystadlu fy hun efallai petawn yn ymwybodol.

Dyna beth arall am yr Eisteddfod, os ydych yn Eisteddfodwr brwd, boed yn ymweldydd neu'n gystadleuydd, mae llawer gormod o 'assumed knwoledge" yn perthyn i'r peth. Wrth gwrs, dw i yn gwbod bod rhestr testun ar gael pob blwyddyn, ond dw i bytgh yn dechrau meddwl am y steddfod tan ganol Gorffennaf, tra mae dyddiadau cau lot o gystadleuathau wedi hen fod erbyn hynny.

Byddai wedi bod yn neis petai'r Eisteddfod wedi meddwl am hybysu'r gystadleuath blogio drwy roi hysbyseb (neu gofyn i Aran ori cofnod blog) ar y Blogiadur - efallai byddai wedi dennu cystadleuwyr newydd. Buasai'n syniad petai tudalen newydd gwefan yr Eisteddfod gyda RSS.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:03 am  

Mae blog heb HTML fel englyn heb gynghanedd.
sylw gan Blogger Nic, 2:16 pm  

Drapia...dyna fi 'di colli nghyfle i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ;)
Fasa 'tramorwyr' wedi medru cystadlu hefyd?
sylw gan Blogger Linda, 2:59 pm  

Fi'n gwpod bo fi'n dwp ond beth yw HTML?!
sylw gan Blogger Cer i Grafu, 4:47 pm  

Gadawa sylw