<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Oes posib cael TomTom i siarad Cymraeg?

18.4.08

Does gyda fi ddim sat-nav (cyfarwyddiadau lloeren?) a dwi ddim yn bwriadu cael un, ond bues i mewn car ble roedd llais John Cleese yn rhoi'r cyfarwyddiadau, gyda elfen comedi ("bare left, beaver right!" a rhyw lol felly). Dwi ddim yn siwr pa mor synhwyrol yw hyn, a dwi'n siw byddai'r jôc yn eich blino ar ôl ei glywed - wel unwaith.

Ta waeth, heddiw mae Luistxo'n adrodd hanes y ffaith bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers iddo lunio rhestr e-bostio Basgeg, a sut daeth y rhestr yma'n sbardun i nifer o ddatblygiadau ar-lein Basgeg eraill a'i argyhoeddi o bosibiliadau'r rhyngrwyd fel teclyn cyfathrebu a chymdeithasol. Erbyn hyn mae gan Eibar, ei dref enedigol, wefan blogio/gymundedol bywiog (nid yn rhy anhebyg i syniad gwefannau Lleol i Mi y BBC, ond ei fod cachlwyth yn well ac yn annibynnol). Mae'n gorffen ei gofnod gyda:
Some list members will meet this afternoon to hack the TomTom car navigation system and record Basque voices for the devices. And that will be made public afterwards.
Petai nhw'n llwyddo, a byddai modd maes o law cael fersiwn Cymraeg, llais pwy hoffech chi ei gael yn eich tywys ar hyd ffyrdd cul cefn gwlad a thraffyrdd Cymru - Dai Jones, Malcolm Allen, Arthur Picton?

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:48 am

3 sylw:

Dwi eisiau sat-nav efo John Bwlchllan (Dr John Davies) yn rhoi'r cyfarwyddiadau.

Dyn call gellir ei ddibynu arno i beidio a dy ddanfon o Fangor i gaernarfon trwy Wrecsam, ond un bydd yn dweud "stopia'r car yma" dyma le pwysig yn hanes Cymru - sylwer arni!
sylw gan Anonymous Anonymous, 12:02 am  

Ma' rhaid ifi anghytuno - bysa clwad llais Bwlchllan yn rhoi cyfarwyddiadau yn m'ela fi'n reit benwan - sdim dou amdeni!
sylw gan Blogger Cer i Grafu, 5:58 am  

Dyna syniad ardderchog Alwyn, dylai opsiwn felly gael ei gynnwys mewn unrhyw TomTom Cymraeg yn y dyfodol, rer mae gan Ceri bwynt, mae'n siarad ychydig yn rhy araf

yn hytrach na
"trowch i'r chwith"

byddai'n dweud
"wel, beth sydd gyda chi'n fa hyn y troad, un reit arwyddocaol ac (rhy hwyr) i'r chwith mae eisiau troi"
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 5:23 am  

Gadawa sylw