Newidiadau (er gwell?) i flogiau'r BBC
18.4.08
Dwi ddim yn berson technegol, ond fel blogiwr ac un sy'n gadael sylw ar flogiau mae gyda fi syniad o beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd ddim. Doeddwn i ddim yn gweld lot o broblem gyda'r hen sustem, ond ymddengys bod spam yn broblem. I ddod dros y broblem hyn mae rwan yn rhaid i chi fewngofnodi er mwyn gadael sylw. Dyma sydd gan y BBC Internet Blog i ddweud:
A new registration based comments systemThis uses the existing signon system across the BBC, so Message Board or Have Your Say users will be able to login as normal.
We thought hard about introducing what some call a "barrier to entry" for leaving comments but, to be honest, we'd had enough of 502 errors and the system seizing up with spam attacks.
Er mod i ddim yn bwriadu cofrestru, fydd y newidiadau hyn ddim yn fy effeithio i rhyw lawer achos darllen blogiau'r BBC ran amlaf fyddai'n wneud, a phrin fyddwn i'n gadael sylw, ond mae awdur y blog yn cyfaddef ei hun mwy neu lai bod sustem gofrestru ar flog yn "barrier to entry".
Rhywbeth arall dwi ddim yn hoffi yw nad oes na rwan bosib i ddolen i'ch blog chi fod uwchben (neu o dan) unrhyw sylw rydych yn adael - rhywbeth hollol bwysig yn fy marn i er mwyn i bobl ddod o hyd i flogiau eraill a pharhau ar drafodaeth. Dwi ddim yn siwr os oes modd cynnwys dolenni o fewn sylwadau chwaith.
Efallai mod i'n swnio'n ffyslyd, ond un o'r rhesymau dwi ddim yn defnyddio negesfyrddau'r BBC achos mae'r rhagrith arnynt yn anhygoel, ac mae hyn yn gofidio un person am beth ddigwyddith i'r blogiau sydd fel arfer wedi bod â safon uchel o drafodaeth:
Do you really think allowing the vast majority of HYS [negesfyrddau Have Your Say] commenters to even know the blogs exist is really wise?
The BBC Blogs are oasis of sanity - even the conspiracy theorists post relatively intelligently, and the topics are less "insta-poll".
Encouraging the unwashed illiterate knee-jerking opinionated bigoted irrational masses that usually spam the hell out of HYS to come here will likely turn a good thing into a mess.