Diolch am ddal y gannwyll
7.4.08
Fel cenedlaethowr Cymreig cul, does dim diddordeb gyda fi mewn yn y gemau Olympaidd, ond y tro hwn rwyf wedi bod yn dilyn y datblygiadau gan mod i'n meddwl ei fod yn warth bod gwladwriaeth fel Tseina yn cael cynnal digwyddiad o'r fath sydd fod i hyrwyddo cyfeillgarwch rhwng gwledydd. Toes dim un gwlad yn berthffaith, ond mae'r modd mae Tseina wedi trîn pobl Tibet a'i dinasyddion eu hunain yn mynd yn groes i popeth dwi'n credu ynddo.
Dwi ddim fel arfer yn gadael sylwadau ar fy mlog am ddigwyddiadau rhyngwladol, gan bod yr un peth wedi ei ddweud miloedd os nad filiynnau o weithiau o'r blaen ar flogiau eraill, ond roeddwn yn dal yn falch bod protestwyr wedi llwyddo i ddifetha gorymdaith y fflam Olympaidd ddoe.
Er mawr syndod, doedd dim sôm am y digwyddiad ar wefan swyddogol y Fflam, mond y bullshit canlynol: Ambassador Fu: Olympic torch spreads message of peace to the world
Crys T gyda'r logi uchod arno.
Deallaf bod pethau'n 'mynd o chwith' ym Mharis hefyd.
Labels: paris london olympics olympicflame beijing protest china