<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Pa mor boblogaidd yw Rhys?

11.4.08

Nid fi, ond yr enw 'Rhys' yn gyffredinol. Cefais siom yn dilyn cyfrifiad 2001 gan i fy enw ddisgyn allan o'r 50 enw babi mwyaf poblogaidd yn y DG gyfunol (a dwi di bod rhywle rhwng y 49ain a'r 59ain safle dros y pedair blynedd diwethaf).

Fel chi'n gwpod, dwi'n gwirioni a'r fapiau a sdwnsh data, felly roeddwn wrth fy modd gyda Baby Name Map, sy'n dangos pa weldydd y byd mae enw arbennig yn boblogaidd. Dyma ganlyniad Rhys. Nid oes canlyniad ar gyfer pob gwladwriath, gall hyn fod am nad oes dim babi wedi'i enwi'n Rhys yno, neu nad oes modd gweld y data, ac mewn rhai gwladwriaethau, mae data wedi ei rannu yn ôl gwlad neu dalaith.

Poblogrwydd Rhys ar draws y byd
Tra roedd hi'n ddigalon bod y nifer o Rhysiaid wedi gostwng o 2 i 1 yn Ciwbec rhwng 2004 a 2006, ond mae newydd mwy calonogol yng Ngogledd Iwerddon gyda 73 yn 2006 o'i gymharu a dim ond 44 yn 2005. Rhys yw'r 5ed enw mwyaf poblogaidd yng Nghymru, ond y 914eg yn UDA ac rhywsut 67fed yng Ngorllewin Awstralia.

PoBLOGrwydd Rhys Wynne
Mae'n siwr eich bod wedi teipio eich henw llawn i Google unwaith yn eich bywyd. Dwi'n mwynhau darllen blog Rhys Wynne arall o Fae Colwyn (sydd fel arfer yn fy nhguro i'r prif safle!), ac yn y gorffenol roedd yna wastad sôn am fachgen ifanc o'r un enw o'r dwyrain pell a oedd yn rhyw fath o child prodigy gyda ei ddarluniau yn werth lot o arian - ond does dim golwg mohono rwan.

Darllenais erthygl ar wefan Y Guraniad am Googlegangers (sy'n swnio braidd yn dodgy) ble mae 40 dynes gyda'r un enw wedi cwrdd. Ac mae un wedi cyhoeddi llyfr am y peth - ychydig fel 'Are yw Dave Gorman' and tua 5 mlynedd yn rhy hwyr.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:04 pm

1 sylw:

Prin dw i'n gallu credu--mae Sarah wedi cwympo i 25 yn California. Roedd hi'n arbennig o boblogaidd yn y gorffennol--roedd 3 Sarah yn fy nosbarth i pan o'n i'n 8 oed.

Mae Sarah Stevensons eraill ond dw i ddim wedi Googled fy hunan ers lawer dydd. Roedd un yn bencampwraig tae kwon do Prydeinig.
sylw gan Blogger Sarah Stevenson, 8:20 pm  

Gadawa sylw