<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Y daith hir am gwrw.

12.6.08

Dwi'n mwynhau fy nghwrw 'go iawn' (oes gwell cyfieithiad i real ale?), ond dwi heb fod i Ŵyl Fawr Cwrw a Seidr Cymru ers rhai blynyddoedd, unia am nad oes cymar yfed gyda fi, neu bod y lle jyst rhy lawn.

Eleni, mae'r ŵyl wedi symud o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, i Arena Rhyngwladol Caerdydd - sydd ond rownd y gornel o ble dwi'n gweithio. Hefyd, mae fy nghydweithwyr yn mwynhau cwrw, felly ni am fynd yno syth o'r gwaith heddiw.

Diawch, dwi'n mwynhau byw yn y dinas.

Dyma fap yn dangos y pellter o ddrws y swyddfa i ddrws y CIA:



O'r gwaith i'r Ŵyl Gwrw map

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:19 am

2 sylw:

Mae Ŵyl Fawr Cwrw a Seidr Cymru yn werth testun ar Qype, Rhys! 'Rwy'n hoffi cwrw o Gymru: Pen-lon, Cwrw Haf / Cwrw Gaeaf, a.y.b.
Netty o Fachynlleth - l'enfant terrible ;-))
sylw gan Anonymous Anonymous, 1:55 pm  

Mae Pen-lon yn un o fy fferfrynnau i, a chwrw otley o ardal Pontypridd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:36 pm  

Gadawa sylw