Dal i fyny
1.6.08
Mae'r blog wedi bod yn dawel, nid am fy mod i wedi cael digon ar flogio and gan mod i wedi od yn brysur. Dwi gyda lo i flogio amdanynt, fel fy ngwyliau a fy swydd newydd, ond dwi am daflu rhai pethau cyflym mewn yn gyntaf.
Blog Mercator. - Mae Rhodri wedi sefydlu blog amlieithog (ond yn Gymraeg yn bennaf) ar newyddion am ieithioedd leafrifol - mae'r cofnodion cyntaf wedi bod yn rhai difyr iawn. Ddim yn rhy anhebyg i Eurolang.
Tad a'r mab - blog newydd gan fy ffrind Iestyn, wrth iddo ddod yn stay at home dad.
Wedi i mi ymaelodi â gwasanaeth LoveFilm dwi wedi bod yn gwylio llawer o ffilmiau Hayao Miyazaki. Mae un o'r ffilmiau am greadur o'r enw Totoro, ac mae merch dawnus Emma wedi gwneud model clai ohono - sbiwch da.

1 sylw:
mae'r totoro bach yn wych! rwy am weld cyfres gan ferch emma reese - beth am yr ysbrydion bach 'na o "mononoke hime"?
sylw gan
asuka, 11:24 am