<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Sawl siaradwr Sbaeneg mae'n gymeryd i.....

4.4.08

....gyfieithu Facebook?

1,500 yn ôl erthygl BBC ac fe gymerodd 4 wythnos. Yn gyntaf meddylaisi bod 'pam bod wedi cymeryd cymaint o fobl a chymaint o amser?' ond dwi'n arfer lleoleiddio meddlawedd i'r Gymraeg ble dim ond lond llaw (ar y mwyaf!) sy'n cyfrannu.

Dwi'n dal i fewngofnodi i fy nghyfrif Facebook yn gymharol rheolaidd, ond does fawr ddim o ddiddordeb arno - fy mhrif rheswm yw i gynnal grŵp Siaradwyr Cymraeg (sir) Caerffili, sydd rwan gyda 60+ o aelodau.

Erbyn hyn mae Facebook ar gael mewn Almaeneg a Ffrangeg hefyd. Ymddengys bod Facebook rwan yn ystyried lleolieddio i ieithioedd eraill gyda pobl yn cael y cyfle i enwi pa ieithoedd hoffent weld y wefan ynddo ac yna cynorthwyo gyda'r cyfieithu. Ar hyn o bryd mae tua ugain o ieithoedd eraill am gael eu cyfieithu gan gynnwys Basgeg a Galisieg, ond dim Cymraeg am y tro.

Mae cofnod ar flog Flacebook yn esbonio ychydig ar sut byddai/dylsai'r broses gyfieithu weithio. Diddorol darllen eu bod am gyflogi cyfieithwyr proffesiynnol yn ogystal a defnyddio gwirfoddolwyr. Dwi wedi ychwanegu'r ategolyn cyfieithu i gael cipolwg ar y broses cyfieithu, gan ddefnyddio Basgeg fel engrhaifft. Mae 20,000 llinyn i'w gyfieithu ac mae modd i bobl bleidleisio ar wahanol gyfiethiadau a chynnig gwelliannau.

Er i gymiant gyfrannu at y fersiwn Sbaeneg, dwi wedi darllen ambell sylw negyddol am y cyfieithiad hyd yn oed wedyn, tra mae eraill yn meddwl bod gan Facebook wyneb y diawl yn gofyn i bobl ei gyfieithu am ddim tra bod y cwmni yn werth cymaint o arian. Be chi'n feddwl?

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:12 am

5 sylw:

Mae'r busnes cwyno bod FB ddim yn cynnig tâl yn wych. Sylwer mai pobl sy'n siarad ieithoedd mawr Ewrop sy'n conan.
sylw gan Blogger Nic, 10:06 am  

Gyda llaw, diolch i ti am dynnu fy sylw at hyn. Sa i wedi bod ar FB lot yn yr wythnosau diwetha, ac o'n i wedi colli hyn.

Mae'r sustem cyfieithu ar y cyd yn edrych yn eitha da, a'r ffaith eu bod nhw wedi derbyn Basgeg fel un o'r ieithoedd cyntaf yn arwydd da. Ddim mor dda i weld faint o ieithoedd eraill, sy'n lot mwy na'r Gymraeg, sy ddim ar y rhestr eto.
sylw gan Blogger Nic, 10:14 am  

Mae'r busnes cwyno bod FB ddim yn cynnig tâl yn wych. Sylwer mai pobl sy'n siarad ieithoedd mawr Ewrop sy'n conan.

Dwi'n gwbod :-)

Ond i fod yn deg iddynt, Facebook fydd yn elwa yn y pen draw, oherwydd gall olygu llawer mwy o ddefnyddiwr iddynt, yn enwidig os yw pawb arall yn syrffedu ar y wefan yn barod.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:54 am  

Diddorol! Do'n i ddim yn gwybod unrhywbeth am hyn. Dw i ddim yn synnu eu bod nhw ddim yn talu am y cyfieithu. Dydy cwmniau technolegol fel 'na ddim eisiau talu, os mae cyfle iddyn nhw ddim yn talu. (Dw i'n credu mai'r bai sydd ar bobl sy'n fodlon gwneud y gwaith am ddim, o leiaf rhan o'r bai--dyma broblem cyffredin yn y byd creadigol...)
sylw gan Blogger Sarah Stevenson, 2:13 am  

Dw i'n credu mai'r bai sydd ar bobl sy'n fodlon gwneud y gwaith am ddim, o leiaf rhan o'r bai--dyma broblem cyffredin yn y byd creadigol...

Www, pwynt dadleuol. Dwi'n cofio darllen trafodaeth ar Flickr (am hwlfraint 'Creative Commons') ble roedd pobl yn dweud bod ameteuriaid yn lladd i diwydiant ffotograffiaeth - ond os yw pobl yn caru gwneud rhwybeth ac yn ei wneud yn dda (h.y cystal , os nad gwell na rhai sy'n codi tâl) ac yn fodlon i eraill ddefnyddio eu gwaith, dwi ddim yn gweld y broblem.

Gelli'r dadlau bod cyfieithu i ryw raddau yn gallu bod yn greadigol. A dwi'n deall dy bwynt nad yw rhywun am dalu am unrhywbeth os gallant eu cael am ddim, a bod cansail (precedent) wedi ei osod yn barod gyda gwirfoddolwyr yn cyfieithu am ddim.

Fel arfer, mae cwmniau yn gweld gwerth economaidd mewn darpar gwasaneth yn y ieithoedd mawr ac yn fodlon talu, tra dim ond trwy waith gwrifoddolwyr y cewch chi ddim yn Gymraeg yn y maes technoleg. Byddai dim Firefox yn Gymraeg, ond efallai byddai Firefox Almaeneg.

Fel mae Nic yn pwyntia allan, mae'n synny siaradwyr y prif ieithoedd bod disgwyl iddynt nhw gyfieithu'r wefan eu hunain -ac yn ddi-dal! Tra mae;n gwbwl naturiol i ni siaradwyr Cymraeg.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:39 am  

Gadawa sylw