<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



WalesCymru.com a QYPE

26.3.08

Sbel yn ôl fe soniodd Dafydd am wefan newydd o'r enw walescymru.com sy'n gyfeiriadur ar-lein o fusnesau yng Nghymru a llefydd i ymweld â nhw, ac yn ysybryd Gwe2.0, y defnyddiwr sy'n creu'r cynnwys. Yn wahanol iawn i nifer o wefannau tebyg sydd fel arfer yn gorchuddio'r byd i gyd, mae hwn yn canolbwyntio ar Gymru fel endyd - y wefan Saesneg breifat gyntaf o'i fath dybiwn i. Mae allan o beta rwan ond nid yw wedi ei lawnsio'r swyddogol eto a dwi'n meddwl bod tipyn o waith gwella i'w wneud. Mae bron iawn i bopeth o wefan web2.0/rhwydweith cymdeithasol yno fel proffeil, ffrindiau, graddio, tagiau ayyb
Cwrddais â pherchennog y wefan Greg Cannon mewn cyfarfod Cardiff Geeks yn ddiweddar a chael sgwrs difyr gyda fo am ei gynlluniau. Soniodd ei fod yn awyddus i'r wefan fod yn amlieithog ond oherwydd cyfyngiadau cyllid nid yw'n flaenoriaeth, er mae croeso i fobl adael adolygiadau mewn unrhyw iaith. Mae'n werth darllen y blog.

Gwefan sydd wedi dal fy slyw'n ddiweddar yw qype.com sy'n cynnig rhywbeth tebyg iawn i walescymru.com - ond ei fod (hyd yma) yn LOT gwell. Dechreuodd y wefan yn yr Almaen, ac mae wedi ei leoleidido i'r Saesneg a Ffrangeg, ond nid yw adolygiadu wedi eu cyfyngu i'r Almaen, Ffrainc a'r Deyrnas Gyfunol. Dwi'n rili RILI licio'r wefan yma.

Amlieithrwydd:
Os ydych yn dewis cyrchu'r wefan yn Saesneg, gyferbyn a phob eitem, gallwch wedyn ddewis darllen adolygiadau mewn iaith penodol.

Rhwydwithio cymdeithasol:
Mae popeth yma, proffeil, ffrindiau, negeseuon, grwpiau, fforymau trafod (ar gyfer pob tref!)

Web2.0:
RSS (ar gyfer unigolyn, tref/dinas neu tag)
Gallu ychwanegu lluniau Flickr a fideos YouTube

Gwobrwyo cyfranwyr:
Gallwch ddadlau bod hyn yn mynd y groes i ysbryd y peth. Pob tro chi'n cyfrannu adolygiad chi'n ennill pwyntiau, ac os yw pobl eraill yn hoffi/cytuno â'ch adolygiad. Wedi chi gasglu hyn a hyn o bwyntiau chi'n gael anrhegion. Cyn i mi gofrestru (typical) roedd chi'n cael taleb sinema £5 am pob ugain adolygiad ac ar hyn o bryd mae cyfle ennill gwyliau i Efrog Newydd.

Defnydd o'r Gymraeg:
O fewn munudau o gofrestru, derbynais fy neges gyntaf gan gyd-aelod ac roedd yn Gymraeg. Roedd y neges gan Annette, Almaenes sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac un o gyfranwyr mwyaf selog y wefan. Dwi'n amau os oes mwy o ddefnyddiwyr Cymraeg eraill hyd yma, ond rhag ofn bod, dwi wedi dechrau grŵp Qypewyr Cymraeg.

Adolygu busnesau sy'n cynnig gwasaneth Cymraeg:
Gelli'r defnyddio qype i wneud rhestr cynhwysfawr. Dwi'n bwriadu tagio busnesau sy'n gynnig gwasaneth cymraeg gyda gwasanaethcymraeg (yn amlwg), a mannau ble gelli'r clywed yr iaith, dod i wybod am yr iaith neu brynnu CD's/llyfrau Cymraeg gyda welshlanguage. Opsiwn arall fyddai cynhyrchu Thywysrestrau (cyfieithiad fi o Guide ar-lein), ond dwi ddim yn siwr os all mwy nag un person gyfrannu at un eto.

Pan ydych chi'n mynd ar wyliau, sut but byddwch chi'n penderfynnu ar ble i aros/fwyta y dyddiau hyn?

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:54 pm

5 sylw:

cofnod dda. joio. Wedi cyfarfod Annette ar Fflicr heddiw! Ac ar fy mlog hefyd dwi'n meddwl ...
sylw gan Blogger Nwdls, 10:56 pm  

Mae hi wedi adolygu lot o lefydd yn Aber (fel ti di sylwi'n barod o dy restr del.icio.us!) a Machynlleth, sy'n grêt i fi achos dwi am dreulio diwrnod yn Aber mis Mai tra'n aros yn Nhresaith am wythnos, a dwi'n aros yn Machynlleth diwedd Mawrth ar gyfer priodas fy nghefnder.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 10:37 am  

@ nwdls: 'rwy wedi ysgrifennu ar dy flog ynghlyn a "Costa Coffee" yn Aberystwyth. Wyt ti'n cofio? ;-)
(Mae well i fi gefnogi'r llefydd lleol wrth gwrs ;-))(os maen nhw'n dda)) Blue Creek ydy'r caffi gorau i mi yno - fel dwedais ar Qype (qualify your personal experiences neu quality and hype - beth mae pobol yn siarad am)

Es i Gymru yn 1984, wedyn yn 1992 (Aber oedd fy Eisteddfod ble es i yn gyntaf. Mi oeddwn i'n byw yng Nghaerdydd am sbel - fy astudiaethau am yr Amgueddfa Werin (ble oedd Rhys yn gweithio hefyd!), gweithiais yn LlGC am dair mlynedd, ar gyfer Archives Network Wales. Ges i lawdriniaeth cefn (emergency)ym 2004 yr ol bod yn ysbyty Bronglais yn yr Almaen (adeg ofnadwy!)

Ar y foment, 'rwy'n paratoi arddangosfa lluniau "Panorama Wales" yn Llyfrgell Genedlaethol Sacsoni Isaf a Brifysgol yn Göttingen, yr Almaen. Bydd hynny yn dda. Mae Llyfrgell yno eisiau prynu llawer o lyfrau o Gymru, felly wyt ti'n gwybod am rhai dda, ysgrifenaf ata i, o.g.y.d!

'Rwy'n hoffi Qype - 'rwy'n hapus bod Rhys yn mwynhau!!

Mae rhaid i ni gwrdd i gyd - yn y gwanwyn ym Machynlleth - ein ty ni, Llys Maldwyn - beth ydych chi'n meddwl? 'Rwy'n hoffi gwneud bwyd Cymreig gan reseitiau fy hen ffrind, y diwethar Mrs Minwel Tibbott - o'i llyfr Amser Bwyd / Welsh Fare.

'Rwy'n nabod Dogfael hefyd - wrth gwrs - o Aber - fel chi.

Hefyd, yn yr Almaen 'rwy'n perthyn i'r cylch o Almaenwyr sy'n siarad Cymraeg a ddathlu Dydd Gwyl Dewi Sant (Britta o Halle, Susanne o Munich, a.y.b.)

Pan mi fyddaf yn yr Almaen bydd ffrindiau i yn dod i Gymru am y tro cyntaf, Sabine a Uli o Witten ger Dortmund.

Mae llawer o ddiddordeb ar Qype am Gymru. Ges i fwy o atebion ohonyn nhw na pobol yma.

Annette - l'enfant terrible ;-))
sylw gan Anonymous Anonymous, 7:31 am  

Ambell waith 'rwy'n darllen blog gan Jeff Rees, Wales World Nation.

Rhai o fy hoff llefydd yng Nghymru (5 seren!):

Amgueddfa Werin Cymru

Clwb Ifor Bach

Treganna, Caerdydd

Siop Hobos, Caerdydd

Capel y Crwys

Caffi Blue Creek

Castell Carreg Cennen

Castell Llanfrothen

Ynys (golygfa draws at Portmeirion)

Sir Benffro

Tafarn Farmers Arms, Tyddewi

Siop "Pollys" Aberystwyth

The White Hart Inn, Llanddarog

Aberdyfi

Ynys Llawd
sylw gan Blogger Netty, 7:57 am  

Ynys (golygfa draws at Portmeirion)

Ynys Gifftan?

Roedd fy Ewythyr yn byw ar yr ynys yna, a byddai fy nhad a'i gefndryd a chyfnitherod yn mynd yno i aros yn yr haf. Mae teulu dod yn dod o ardal Dyffryn Ardudwy i'r de o Harlech.

Tydw i erioed wedi bod i'r ynys fy hun yn anffodus.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:22 am  

Gadawa sylw