Golwg newydd gwe.20aidd i hafan bbc.co.uk
27.2.08
Anaml fyddai'n ymweld â'r dudalen yma i ddweud y gwir, ond o beth dwi'n gofio roedd yn ddigon hawdd cyrchu gwefan anferthol y bbc drwyddo. Mae'r edrychiad newydd yn amlwg wedi ei ddylanwadu gan ddyluniad gwe2.0, ac mae modd i'r unigolyn ddewis ac addasu beth sy'n ymddangos ar y dudalen (yn debyg i beth gewch chi ar wasanaeth tebyg i netvibes). Y peth yw dwi'n meddwl bydd y bbc yn disgyn rhwng dwy stol yma gan na fydd hyn at ddant darllenwyr sydd ddim yn gîcs gan ei fod yn ymddangos fel newid er mwyn newid, a tydi o ddim yn mynd i blesio'r gîcs achos mae'r dewisiadau yn reit gyfyng a tydi'r dyluniad ddim yn wych o bell ffordd.
Mae'r mwyafrif o sylwadau ar flog BBC Internet Blog wedi bod reit negyddol. Tra dwi'n hoffi'r syniad o bersonoleiddio'r hafan, does dim llawer o angen hyn arna i gan mod i'n defnyddio bloglines i ddarllen unrhyw newyddion.
Hefyd mae'r dewis yn gyfyng, er engrhaifft:

- Mae gan y BBC ddegau o flogiau, gallwch ond weld llond llaw drwy'r hafan. Mae modd dewis un Betsan Powys, ond ddim un Vaughan Roderick
- Ar y dewis chwaraeon, gallaf ddewis i weld newyddion pêl-droed, neu chwaraeon Cymru, ond ddim newyddion am CPD Wrecsam yn unig (does dim diddordeb gyda fi yn uwchgyngrhair Lloegr na straeon rygbi)
- Gallwch ddewis newyddion BBC Wales ond ddim BBC Cymru (er bod ffrwd RSS gan y ddau)