<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Mae 'stwnsh' googlemaps o fewn gafael plebiaid fel fi

20.2.08

Os chi heb sylwi, dwi wedi gwrioni'n llwyr gyda'r gwahanol mash-ups googlemaps gwahanol sydd i'w cael. Mae rhai'n fwy defnyddiol na'u gilydd wrth gwrs. A thra mod i'n hoff iawn o'u defnyddio, does dim clem gyda fi sut i greu un. Mae Mei yn dipyn o giamstar ar bethau fel hyn ac wedi creu Teclyn Prynnu Tŷ drwy gyfuno googlemaps gyda manylion o wefan Nestoria.

Ond o'r diwedd, mae modd i mere mortals fel fi greu un diolch i CommunityWalk. Dwi'n gweithio i Fenter Iaith sir Caerffili, a meddylais byddai'n ddefnyddiol i ni allu gwybod ble mae'r siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ôl y cyfrifiad mae 18,000 yn byw yn y sir, er dim ond rhyw 200 sydd ar ein rhestr bostio presenol ni (roedd dros 800, ond yn dilyn newidiadau i gydymffurfio a rheolau Diogelu Data mae wedi ei gwtogi'n sylweddol). Eto byddai'n ddiddordol gweld os oes yna unrhyw cylsterau. Gall hyn fod o ddenfydd, er engrhaifft petawn yn cynllunio bws mini i fynychu ein Twmpath. Felly dyma fi'n creu'r map canlynol:

CommunityWalk Map - Siaradwyr Cymraeg y sir

Er mwyn gwarchod preifatrwydd yr unigolion, dim ond manylion côd post dwi'n ddenfyddio. Y cwbwl sydd angen yw bod y wybodaeth mewn tabl tebyg i Excel ac yna dilyn y Wizard. Hawdd pawdd.

Syniadau am fapiau eraill?
Dwi'n trio meddwl am stwnsh defnyddiol arall i greu. Es i'r drafferth o greu taenlen gyda manylion Siopau Cymraeg yn defnyddio manylion cyfeiriadur Y Lolfa, sydd dal gyda fi yn rhywle. Hefyd efallai gallaf ofyn i Dewi am fas data sydd tu cefn i wefan LleAryWe. Oes gyda chi awgrymiadau?

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:10 am

2 sylw:

Da de! Dwi heb weld community Walk o'r blaen. Mae 'na fwy a fwy o wefannau sy'n cynnig gwneud y gwaith i chdi yn cropio fyny o hyd.

Geshi olwg gyflym ar hwn ddoe sy'n edrych yn dda zoho.com.
sylw gan Blogger Mei, 11:58 am  

zoho.com yn edrych yn beth handi hefyd. Mae gyda fi gopi o MS Access, ond wedi anghofio'n llwyr sut i'w ddefnyddio'n iawn. Efallai ddefmyddiai hwn i gadw trac o'r cyflogwyr sy'n defnyddio jobs-cymraeg.com - ac yna creu map wrth gwrs!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:17 pm  

Gadawa sylw