<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



All unrhywun awgrymu ffilm?

22.2.08

Cefais voucher tanysgrifiad tri mis am ddim i wasaneth LOVEFilm llynedd a dim ond rwan dwi'n cymeryd mantais ohono. Dwi ddim yn siwr os byddaf eisiau talu am y gwasaneth achos dwi ddim yn gwylio ffilmau mor reolaidd a hynny ac mae gan lyfrgell canolog y brifysgol ble mae fy ngwraig yn gweithio ddewis da iawn o ffilmiau safonnol sydd i'w benthyg am ddim. Hefyd dwi ddim yn hoffi'r syniad o orfod archebu o flaen llaw, i fi mae lllogi ffilm yn rhywbeth byddwn yn penderfynnu wneud ar y diwrnod/noson, ond yn anffodus fe gaeodd yr unig le rhentu ffilmiau yn Treganna, sef Choices (yn bennaf diolch i wasanethau fel LOVEfilm!) felly does dim lot o ddewis gyda fi.

Y broblem yw, i fywiogi eich cyfrif, rhaid dewis 10 ffilm hoffech weld, er mwyn i'r cwmni allu gwneud yn siwr bod nhw'n gallu danfon ffilm rydych ei eisiau atoch yn syth, sy'n gwneud sens. Y peth yw, cael a chael oedd hi i Sarah a finnau feddwl am ddeg ffilm roeddwn eisiau ei weld. Dyma ni'n chwilio am rai roeddem wedi eu mwynhau yn y gorffenol a chlicio ar 'Similar films', ond tydi hyn ddim yn rhoi canlyniadau defnyddiol pob tro. Dyma ni hefyd yn edrych ar Amazon i weld pa ffilmiau tebyg oedd pobl yn brynnu, ond eto gall rhain fod reit random.

All unrhyw un awgrymu ffilm neu ddau da i mi? Dwi'n hoff iawn o ffilmiau tramor a ddim yn ffan o rai Americaniadd cawslyd (plis peidiwch awgrymu Shawshank Redemption neu Lost in Translation!), er dwi yn hoffi ffilmiau Kevin Smith ac yn ddiweddar gwelais The Big Lebowski am y tro cyntaf a meddwl ei fod yn grêt. Mae hyn yn swnio braidd yn gwl, ond dwi gyda meddwl reit agored am ffilmiau.

Dwi'n ymwybodol o IMDB, darllen adolygiadu ffilm ardderchog Barn, a gyda cywilydd na sylwais bod cymaint o adolygiadau ar Pictiwrs.com*. Dwi hefyd newydd ddarganod tag ffilm08 ar restr del.icio.us Nic, ond beth dwi'n chwilio am yw gwefan tebyg i Last.fm ar gyfer ffilmiau, oes un all rhywun argymell?

Os oes gyda chi awgrymiadau am ffilm, ac rydych yn defnyddio del.icio.us, gallwch ddanfon dolenni ataf drwy ddefnyddio'r tag 'for:rhyswynne'

*Rhodri, does dim un o'r dolenni at dudalen IMDB ffilm yn gweithio o unrhyw adolygiad.

NODYN:
Ymddengys bydd rhaid i mi fod yn ofalus pan mae'r tri mis am ddim yn dod i ben os yw profiadau negyddol y pobl yma gyda LOVEfilm yn gyffredin.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:27 am

5 sylw:

Bydd Pictiwrs yn ail-wampio cyn bo hir, gyda lle lot mwy amlwg i'r adolygiadau.

10 ffilm? Hawdd!

Ffordd dwi'n dueddol o wneud ydi mynd yn ôl cyfarwyddwr dwi'n ei hoffi a gwylio sawl un. Ma back catalogue y Coens yn wych heblaw am (Ladykillers a'r un efo Zeta Jones).

Ffilmiau Akira Kurosawa yn wych bron yn ddi-eithriad.

OK rhai dwi di mwynhau ar DVD dros y flwyddyn ne ddwy ddwetha:

Bombon el Perro
Basque Ball
A Cock and Bull Story
Ffilmiau Jim Jarmusch
Ffilmiau John Cassavetes
Ffilmiau John ac Albert Maysles
Ffilmiau 'Beat' Takeshi Kitano
Ffilmiau Almodovar (os ti'n gallu handlo camp)
Pusher
Sunshine
Ten
Two Lane Blacktop
Throne of Blood a Stray Dog (Kurosawa)
Salesman
Closely Observed Trains
Lovers of The Arctic Circle
Atanarjuat: The Fast Runner
Saturday Night Sunday Morning

Os tisiochange o noir thrillers Americanaidd dos am rai Ffrengig sydd hyd yn oed mwy cwl - Jean Pierre Melville di'r boi am hyn

A be am hefyd sdwff eraill Jean Pierre Jeunet - Delicatessen a City of Lost Children - ill dau yn nyts, gwych a gwreiddiol.

Digon fanna am chydig? ;-)
sylw gan Blogger Nwdls, 1:09 pm  

Waw diolch, dylai hynna gadw fi fynd am 3 mis. Dwi wedi gweld sawl ffilm da fy hun y gallaf eu hawgymmu yn enwedig rhai Sbaeneg ac o dde America, ond allai'm yn fy myw a chofio eu henwau.

O'r rhestr mond Basque Ball a Delicatessen dwi wedi weld. Wedi medddwwl mynd trwy restr ffilmau brodyr Cohen ond ddim yn siwr ble i ddechrau, diolch am y tip rhai i osgoi.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:41 pm  

Dyma'r rhai dwi wedi gweld yn eitha ddiweddar a 'chydig o awgrymiadau.

Unrhyw beth sydd a Tony Jaa ynddo
Casino
Brotherhood
Letters From Iwo Jima/Flags of Our Fathers

Coens yn wych, roedd Fargo ar Ffilm4 yn ddiweddar ac yn gret o ffilm.
sylw gan Blogger Mei, 2:55 pm  

Os wyt ti'n lico ffilmiau comedi tywyll a hollol anwleidyddol gywir, ma' rhaid iti weld y gyfres o ffilmiau 'Torrente' gan Santiago Segura (y cyfarwyddwr a'r prif actor ynddynt)

Torrente: el brazo tonto de la ley (1998)
Torrente 2: el mision en Marbella (2001)
Torrente 3: el protector (2005)

Maen nhw ymysg y ffilmiau mwya poblogaidd yn hanes y sinema yn Sbaen o ran y box office

Cei di ddarllen rhagor amdanynt os ei di at 'Torrente' ne 'Santiago Segura' yn y wikepedia
sylw gan Blogger Cer i Grafu, 3:50 pm  

Diolch bois.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 4:29 pm  

Gadawa sylw