<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Hen lyfrau Cymraeg (a'r gair 'Sgotland')

13.3.08

Es i siôp lyfrau Oxfam ar stryd y Santes Fair i chwlio am lyfr Saesneg, ond ches i mo hyd iddo, er cystal y dewis. Cyn gadael dyma fi'n mynd i chwilio os oedd rhai Cymraeg ygyda nhw, ac roedd rhyw ddwy silff fer ohonynt. Yn wahanol i'r rhai saesneg oedd i gyd reit diweddar, rhai llawer hŷn oeddynt ac fe brynnais ddau, y ddau gan Lyfrau'r Dryw digwydd bod.

Llyfr Garddio gan J. E. Jones (gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1967)
a
Crwydro Gorllewin Dinbych gan Frank Price Jones

Cafodd y ddau eu cyhoeddi yn 1969, a dywedodd mam ei bod yn cofio llyfr Frank Price Jones yn dod allan gan ei bod hi'n gweithio mewn siop bapur yn nimbych ar y pryd ac roedd yr awdur yn un o'r cwsmeriaid.

Mae Crwydro Gorllewin Clwyd yn lyfr hynod ddifyr, gyda hanes manwl am born i bob plwyf mewn ardal eang o'r hen Sir Ddinbych. Mae'r llyfr yn ran o gyfres o'r enw Crwydro Cymru, a byddwn yn argymell unrhywun i gael gafael ar hen gopi cyfrol am eu hardal nhw. Mae hefyd yn ddiddorol gan ei fod yn cyfeirio at ardal Hiraethog, cyn i gronfa Brenig gael ei adeiladu (wel diddorol i mi ta beth gan mod i'n ymweld â'r argae'n reit aml pan yn iau). Gan i'r llyfr gael ei ysgrifennu'n niwedd y 60'au, mae'r awdur yn crybwyll boddi tyweryn wrth drafod Cronfa Alwen, ac yn gofyn a fyddwn ni byth yn feistri ar ein adnoddau naturiol ein hunain.

Yn y rhifynnau diwethaf o Barn, mae yna erthygl o'r gorffennol yn cael ei gyhoeddi, ac yn rhifyn Chwefror mae erthygl o 1964 gan Alwyn D. Rees ble mae'n trafod trafferthion sefydlu Prifysgol Cymru ar ddechrau'r 20G, ac yn benodol araith gan wleidydd Albanaidd. Rhywbeth am trawodd i yn yr erthygl yma, ac yn llyfr Frank Price Jones yw eu bod ill dau yn cyferio at yr Alban fel 'Sgotland'. Perodd hyn gryn syndod i mi yn enwedig gan bod y ddau yn academwyr Cymraeg. Pa bryd felly y newidiodd 'Sgotland' i fod 'Yr Alban' sgwn i?

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 9:22 pm

2 sylw:

Dwi wastad yn cerddad allan o siop lyfra ail law efo llyfr. Gorfod osgoi nhw weithia, chos chai ddim cyfla i'w darllan nhw gyd. Mae na rai da iawn yn Aber.
sylw gan Blogger Nwdls, 4:21 pm  

Mae 'Yr Alban' yn hen air dwi'n meddwl (o'r Gaeleg wrth gwrs) ond mae dylanwad y Saesneg yn amlwg ar addysg Cymry Cymraeg o'r 19fed ganrif ymlaen.

Dim ond ers y 1970au rydyn ni'n poeni am gael enw Cymraeg ar bopeth.

Mae gen i lyfr Cymraeg o 1880 sy'n sôn am "Ysgotland" a hefyd "Edinburgh". Mae enwau gwledydd saesneg ynddo fel Iceland a'r unig esiampl o enw Cymraeg am wlad heblaw am Lloegr alla'i weld yw'r "Aipht".
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 7:35 pm  

Gadawa sylw