Mae hyn yn syniad cyffrous
30.11.07
Unrhyw yn gwrando ar raglenni Radio 4 yn y bore? Os chi'n gont diog fel fi ac yn cyrraedd y gwaith yn hwyr yn rheolaidd (dwi'n yn gwiethio yn yr hwyr yn aml, felly mae hawl gyda fi!), yna efallai rydych yn gwrando ar y rhaglenni sydd ymlaen wedi 9 y bore, fel Desert Island Discs, Book of the Week, In Our Time a fy ffefryn i sef The Long View (sy'n cymharu sefyllfaeodd cymdeithasol neu wleidyddol heddiw gyda rhai hynod o debyg yn y gorffenol pell ac agos).
Ar flog Pods & Blogs (rhaglen radio am flogio ar Radio 5 Live), mae cofnod sy'n sôn am flog o'r enw After Our Time:
Eisioes mae rhai rhaglenni S4C wedi bod a blogiau swyddogol ac answyddogol fel Sgorio, Ar y Lein a Popeth Cymraeg, ond ni chawsant eu hyrwyddo na eu defnyddio i'w llawn potensial. Gan mod i hefyd yn gadael gwaith yn hwyr, dwi'n aml yn trafeilio wedi 6 yr hwyr, a dwi wedi clywed sawl rhaglen ffeithiol difyr ar Radio Cymru. Yn anffodus gan nad ydw i'n wrandawr cyson, ac oherwydd diffyg gwybodaeth ar wefan Radio Cymru mae'n anodd cadw trac o beth sydd ymlaen. Un engrhaifft oedd cyfres reit ddifyr yn ddiweddar gyda Twm Morys yn teithio ar draws Cymru'n cymharu tafodiaethau. Byddai bod a modd i ddilyn y drafodaeth a chlywed barn ac engrheifftiau pobl na gyfwelwyd ar y rhaglen wedi bod yn ddifyr.
- Tra'n chwilio am ddolen Radio Cymru, yma fi'n darganfod dolen at gyfres Pethau Mawr Bywyd, eto'n swnio'n ddifyr, ond doedd dim syniad gyda fi bod hwn wedi bod ymlaen. Gall y dyddiaduron fod wedi bod ar ffurf blog ac wedi eu hychwanegu at Blogiadur. Byddai hyn yn ei dro yn debygol o ddal sylw blogwyr neu darllenwyr blogiau Cymraeg eraill a fyddai wedyn o bosib yn sôn am y peth wrth eraill.
Rhyw ddydd bydd pobl yng nghyfryngau Cymru'n ei dallt hi (gobeithio)!

I'm very excited about After Our Time, a truly excellent fan blog for Radio 4's In Our Time. It's great to see a conversation started by a really good radio programme continued online.Tydw i ddim yn ffan mawr o'r rhaglen In Our Time, achos mae'r gwyddoniaeth yn mynd tros fy mhen i'n llwyr a dwi ddim yn hoff o'r cyflwynydd am ryw reswm, ond dwi wir yn hoffi'r syniad o barhau i drafod pwnc penodol yn dilyn beth ddwedwyd ar y rhaglen. Ok, efallai nad yw hyn mor chwyldroadol a hynny, gan yn y bôn beth yw'r mwyafrif o flogiau ond lle i adael sylw ar ddigwyddiadau a datganiadau sydd eisioes wedi digwydd/cael ei dweud yn rhywle arall, ond mae'n rhywbeth y gellir ei gopio ar gyfer rhaglenni radio a theledu Cymraeg - os yw'r rhaglen gwreiddiol ei hun yn haeddu ymaelathu arno!
Eisioes mae rhai rhaglenni S4C wedi bod a blogiau swyddogol ac answyddogol fel Sgorio, Ar y Lein a Popeth Cymraeg, ond ni chawsant eu hyrwyddo na eu defnyddio i'w llawn potensial. Gan mod i hefyd yn gadael gwaith yn hwyr, dwi'n aml yn trafeilio wedi 6 yr hwyr, a dwi wedi clywed sawl rhaglen ffeithiol difyr ar Radio Cymru. Yn anffodus gan nad ydw i'n wrandawr cyson, ac oherwydd diffyg gwybodaeth ar wefan Radio Cymru mae'n anodd cadw trac o beth sydd ymlaen. Un engrhaifft oedd cyfres reit ddifyr yn ddiweddar gyda Twm Morys yn teithio ar draws Cymru'n cymharu tafodiaethau. Byddai bod a modd i ddilyn y drafodaeth a chlywed barn ac engrheifftiau pobl na gyfwelwyd ar y rhaglen wedi bod yn ddifyr.
- Tra'n chwilio am ddolen Radio Cymru, yma fi'n darganfod dolen at gyfres Pethau Mawr Bywyd, eto'n swnio'n ddifyr, ond doedd dim syniad gyda fi bod hwn wedi bod ymlaen. Gall y dyddiaduron fod wedi bod ar ffurf blog ac wedi eu hychwanegu at Blogiadur. Byddai hyn yn ei dro yn debygol o ddal sylw blogwyr neu darllenwyr blogiau Cymraeg eraill a fyddai wedyn o bosib yn sôn am y peth wrth eraill.
Rhyw ddydd bydd pobl yng nghyfryngau Cymru'n ei dallt hi (gobeithio)!
Labels: blogio
Al Jazeera
Bu tipyn o ffws pan lawnsiwyd sianel Saesneg Al Jazeera, ond dwi heb glywed dim amdano ers hynny.
Mae un o'i rhalgenni People & Power wedi bod ag eitem am garcharorion Basgaidd, ac mae nifer o bynciau eraill yn cael eu trafod fel y wal yn Belffast ac Ucheldiroedd y Golan. Mae dolen at bob rhaglen ar YouTube (er sdim speakers gyda fi yma).
Er bod rhai'n awgrymmu bod yr orsaf yn tueddu ochri gyda eithafwyr Islamiadd, all ansawdd y newyddiadura ddim bod dim gwaeth na prif ddarparwyr newyddion eraill.

Labels: cyfryngau
Cheryl Gillian AS yn holi holl ardranau'r llywodraeth sawl siaradwr Cymraeg maen't yn gyflogi
15.11.07
Wedi dod ar draws y post hwn ar Dizzy Drinks, ble mae'r awdur yn ei weld yn ddoniol bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwybod faint o'u staff sy'n gallu siarad Cymraeg, ond nod oedd y Swyddfa Dramor yn. Dyma fi'n edrych ar gwestiynnau ysgrifennedig diweddar Cheryl Gillian (Llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru) i weld pwy arall oedd hi wedi ei holi.
Mae rhai o'r gwahanol atebion yn ddifyr.
Swyddfa Gartref: The Home Office does not collect information about the number of Welsh speakers within the Department.
Adran Trafnidiaeth: The information requested can be provided only at disproportionate cost.
Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon: We are unable to provide an answer as the Department does not hold information on how many Welsh speakers it employs; the information requested could be provided only at disproportionate cost.
Trysorlys: It is not compulsory for HM Treasury employees to declare that they are Welsh speakers, however, four employees have declared that they are Welsh speakers.
Wel, oce tydi'r atebion ddim yn ddifyr o gwbwl, ond beth yw cymhelliad Gillian i'w gofyn yn y lle cyntaf sgwn i? A'i gweld os yw'r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei nodi o gwbwl/ os oes tan gynrychiolaeth o siaradwyr Cymraeg neu a'i ceisio profi neu gwrthbrofi mai siaradwyr Cymraeg yn unig sy'n cael eu cyflogi gan y sector gyhoeddus!
Mi ofynodd hi ddau gwestiwn difyr arall hefyd, ond roedd yr atebion yn rhai crap:
To ask the Secretary of State for Wales what proportion of each type of food served in his Department in the last 12 months was (a) British and (b) Welsh origin?
To ask the Secretary of State for Business, Enterprise and Regulatory Reform what consideration he has given to moving one public holiday in Wales to St. David's Day; and what estimate he has made of the costs associated with such a move.
Ateb:The present pattern of bank holidays in the United Kingdom is well established and accepted, and the Government have no current plans to change the arrangements
Diawled.

Labels: cymru prydeindod cymraeg
Iaith arall - yr un stori
11.11.07
Nid fod o'n unrhyw gysur, ond mae'n debyg mai nid dim ond y Gymraeg sy'n cael ei beirniadu/ bychanu gan gorfforaethau mawrion. Bu erthygl yn y Wall Street Journal yn ddiweddar o dan y teitl Basque Inquisition: How Do You Say Shepherd in Euskera?
Mae'r un ystradebau dwl yn cael eu hail hadrodd: "dim ond hyn a hyn o bobl sy'n eu siarad", "mae nhw'n dwyn eu geiriau i gyd gan ieithoedd eraill", "mae'n ofnadwy bod pobl yn cael eu gorfodi i'w siarad", "tydi o ddim yn iaith go iawn"...ac yn y blaen ac yn y blaen.
Fel y gallwch ddychmygu, mae wedi codi gwrychun sawl un, gan greu cyn gynwrdd yn y byd blogio Basgeg. Dyma ddau ymateb gwych, sy'n llawn dadleuon ardderchog y gallwn ni siaradwyr Cymraeg ein 'harfogi' ein hunain gyda (os ydym yn ddigon gwirion i gael ei hunain wedi ein llusgo i drafodaeth ar-lein gyda rhyw dwpsyn, neu gwaeth fyth yn y byd 'go iawn').

Labels: iaith basgeg