Blogiau Newydd
28.5.07
Corddi'r Dyfroedd: blog rantio Huw Waters ble mae'n dweud ei ddweud ar beth sy'n bod gyda phawb a phopeth - dyma beth gafodd blogiau eu creu ar eu cyfer. GO HUW!
Dwi Eisiau Bod Yn Americanwr: Blog wedi ei ysbrydoli gan Dwi eisiau bod yn Gymro, ond mae'r awdur eisiau symud i'r cyfeiriad arall. Ar y dechrau meddyliais mai rhyw fath o spoof o flog Chris oedd am fod, ond mae'r awdur wedi syrffedu ar dywydd a phrisiau tai Cymru/Prydain, a'r ffaith bod i rhywun gyfiawnhau siarad Cymraeg yng Nghymru'n feunyddiol.
Siwtces Taid: Dyma un difyr, sef blog gan Alan, sy'n ceisio darganfod mwy am hanes teulu ei daid drwy ddefnyddio cynnwys hen siwtces ei daid.
Mae’r blog yma’n ymdrech i ddarganfod mwy am deulu fy nhaid, William Owen, yn bennaf drwy drychu drwy’i hen siwtces. Roedd William Owen (1901-1986) yn frodor o Rhosgadfan, Arfon.
Gobeithio i gynnwys y siwtces gynnau sbardun i gychwyn hel achau ac ymchwilio ymhellach i hanes fy nheulu.
Alan Vaughan Hughes
Mae cyfieithiad Cymraeg o Nireblog yn barod ac mae ambell flog Cymraeg yn ei ddefnyddio'n barod*:
Ubuntu Cymraeg: Blog yn esbonio sut i osod ferswin Cymraeg Ubuntu ar eich cyfrifiadur (wedi'w ysbrydoli gan flog y Profiad Ubuntu Basgeg)
Clwb Cerdded 2YQ: Blog ar gyfer clwb cerdded Cymraeg yng Nghaerdydd
Blog Meddal: Newyddion diweddaraf gan Meddal
* Er y cafodd fersiwn Llydaweg o Nireblog ei gyfieithu ar ôl yr un Cymraeg, mae tipyn mwy o flogiau arno'n barod, er mae efallai doedd fawr ddim blogiau Llydaweg yn bodoli cynt.
5 sylw:
Falch bod ti'n eu mwynhau James, hen bryd i ti ddechrau ail-flogio ;-)
Er nad ydyw'n gyfrinach, na tydwi'n ei gyhoeddi ond fi sydd hefyd yn rhedeg newydd*sbon.
Credaf fod pobol yn tueddu i droi yn erbyn pobol pan maent yn ymwybodol o'u safbwynt gwleidyddol, er fy mod yn ceisio bod mor niwtral gyda Corddi'r Dyfroedd.