<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Sylwadau am farchnata dwyieithog 2:Coed Llandegla

7.3.08

Rhan o gyfres gwaith ymchwil Helen Williams.

Dwi'n mynd i'r gogledd y penwythnos yma, ac os bydd y tywydd yn neis a caf amser rhywng ymweld â'r teulu, gwylio'r rygbi a mynd i gael fy mesur ar gyfer siwt usher i briodas fy nghefnder, hoffai Sarah a fi fynd i gerdded. Edrychais am y tag 'Cerdded' ar fy nhyfrif del.icio.us a chlicio ar ddolen Coed Llandegla.

Mae'r ganolfan a'r llwybrau beicio a cherdded i gyd yn newydd ac roeddwn yn meddwl ei fod yn perthyn i'r Comisiwn Coedwigaeth oherwydd yr arwyddion o'r ffordd fawr. Ond yn ôl y wefan mae'r safle'n berchen i ac yn cael ei redeg gan gwmni UPM TilHill, a bod y ganolfan yn cael ei redeg gan Oneplanet Adventure.

Dwi ddim yn siwr am statws swyddogol y goedwig gan mai cwmni prefiat sydd yn ei berchen rwan (efallai cafodd ei werthu gan y Comisiwn Coedwigaeth), ond mae opswin Cymraeg ar wefan Coed Llandegla. Beth sy'n rhyfedd/gwirion yw bod yr opswin Cymraeg ar ffurf PDF - pam? Mae'n llawer llai deiniadol a deinamig cyrchu dogfen PDF 7 tudalen na gwefan arferol. Allai ddim deall y rhesymeg dros wneud hyn - Byddai Daniel Cunliffe yn cael ffit. Cafodd y wefan ei hadeliadu gan gwmni Promote.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 9:44 am | dolen | 0 sylw |

Sylwadau am farchnata dwyieithog 1:BT

Rhan o gyfres gwaith ymchwil Helen Williams.

Dwi'n gwsmer BT a SWALEC. Nid oherwydd safon eu gwasaneth cwsmer (er, allai'm cwyno am ddim un ohonynt), na chwaith oherwydd eu prisiau cystadleuol (os rhywbeth mae'nt yn ddrytach na'u cystadleuwyr) ond oherwydd eu gwasaneth Cymraeg.

BT yw'r gorau o'r ddau o bell ffordd, mae bron popeth dwi'n dderbyn ganddynt yn Gymraeg yn unig, o fy miliau ffôn i lythyrau cyffredinol a chylchlythyr achlysurol. Mae gyda nhw linell ffôn cwsmeriaid Cymraeg a gwsanaeth 118 Cymraeg (gweler fideo isod). Dwi'n defnyddio'r gwasaneth 118 404 yma pob hyn o hyn ac erioed wedi cael fy siomi. Mae'n costio arain a mae'n gwestiwn gen i os fyddwn yn trafferthu defnyddio gwasaneth o'r fath yn Saeseng.

Roeddwn eisiau Band Llydan i'r tŷ. Gwyddwn bod BT eto'n ddrytach na'r mwyafrif llethol o'i gystadleuwyr, ond reoddwn yn fodlon eu gwobrwyo am eu gwasaneth Cymraeg. Ond does dim modd archebu band llydan yn Gymraeg drwy eu gwefan na dros y ffôn*, felly penderfynnais ddefnyddio PlusNet. Yn ddiweddar dwi'n sylwi bod eu gwefan hw rwan yn ddwyieithog - ond mewn Saesneg a Phwyleg.

I ddweud y gwir, tydi SWLAEC ddim yn cynnig gwsanaeth Cymraeg. Mae eu cerdiau darllen meter nhw'n dweud 'Thank You/Diolch' ar ei gefn a dyna fo. Roedd eu biliau arfer bod yn ddwyieithog ond ddim bellach. Er fod y cwmni wedi ei brynnu gan Scottish Power, mae eu canolfannau galw wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, ac felly pob tro dwi'n eu galw, dwi'n gofyn am wasaneth Cymraeg er nad ydynt yn ei gynnig. Fel arfer mae'r sawl dwi'n siarad gyda swnio ychydig yn ansicr, gyda gyda ychydig o berswadio (cwrtais) mae'n mynd i siarad a rheolwr a gaddo gawlad yn ôl. Dwi wedi derbyn galwad yn ôl yn Gymraeg pob tro, ond rhaid aros rhwng chwater awr ac awr am hyn fel arfer sydd ddim o hyd yn gyfleus. Er mor bitw yw hyn, mae'n well na dim un o'u cystadleuwyr.

Yr wythnos diwethaf cefais lythyr uniaith Saesneg yn nodi bod telerau gwahnool gynlluniau talu yn newid a llyfryn gyda'r manylion llawn. Dwi'n derbyn bod rhai pethau yn anffodus ond am ddod yn Saesneg, ond tua triaidua'n ddiweddarach daeth yr holl wybodaeth eto i mi yn uniaith Gymraeg. Tra dwi'n falch o'r ymdrech mae BT mynd iddo, mae'n ddibwynt danfon y Gymraeg ataf wedi i mi ddarllen y deunydd yn y lle cyntaf.

*Efallai bod hyn wedi newid


Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:40 am | dolen | 0 sylw |

Sylwadau am farchnata dwyieithog.

Mae fy nghydweithiwr Helen ar ganol cwrs MA mewn marchnata, a bydd ei thraethawd hir am agweddau pobl tuag at farchnata dwyieithiog.

Fel rhan o'r gwaith mae hi eisiau barn unigolion sy'n siarad Cymraeg a rhai di-Gymraeg a rhai grwpiau ffocws. Dwi wedi gwrifoddoli i fod yn un o'r unigolion ac mae Helen wedi gofyn i mi gadw cofnod o unrhyw engrheifftiau dwi'n weld a gadael sylwadau amdanynt. Byddai'n defnyddio'r tag ymchwilhelen. Croeso i chi wneud yr un fath nau gadael sylw ar fy nghofnodion i.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:28 am | dolen | 0 sylw |