<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Twpdra (?) adranau'r llywodraeth a lladron penffordd y diwydiant creu gwefannau.

14.2.09

Mae Vaughan Roderick yn reit damniol o'r stori fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi comisiynu system ar gyfer llysoedd ynadon Cymru a Lloegr, ond wedi "anghofio" y byddai angen i'r system honno weithredu'n ddwyieithog yng Nghymru. Ydy, mae'n gywilyddo beth bod nhw wedi anghofio (neu anghofio'n fwriadaol yn ôl sylw MH ar flog Vaughan), ond beth sy'n fy nychryn i ydy'r gost. Yn gyntaf fe gostiodd y system £444 miliwn a'r amcangyfrif i'w alluogi i ddanfon gwysi'n ddwyieithog yw £4 miliwn arall!

Tydy i ddim yn arbennigwr dylunio meddalwedd, ond i mi mae'r system danfon yn un gymharol syml. Pan dderbyniais i wys (dwyieithog!) tua 18 mis yn ôl, y cwbwl oedd o oedd taflen wybodaeth cyffredinol sydd wedi ei argraffu'n barod yn eu miloedd, gyda fy enw i, new'r llys a'r dyddiad wedi ei ychwanegu ato. I ryngwladoli'r meddalwedd er mwyn gallu gwneud hyn yn Gymraeg hefyd, a'i gyfyngu i bobl sy'n byw yng Nghymru, siawns mai dim ond ychwanegu colofn arall, neu 'querry' côd post at fas-data sydd angen.

Mae Vaughan yn gorffen gyda;
Dyw "anghofio" ddim yn esgus digon da. Mae hwn yn fethiant llwyr wrth gyflawni dyletwydd sylfaenol. Mae hynny'n haeddu ymchwiliad llawn gyda'r rheiny oedd yn gyfrifol yn cael eu disgyblu neu eu diswyddo.
Dw i hefyd yn meddwl bod angen disgyblu ac addysgu pwy bynnag oedd yn gyfrifol, yn gyntaf am eu dyletswydau at siaradwyr Cymraeg, ond yn ail am sut i fod yn gall mewn proses caffael.

Dylid hefyd mynnu gan y cwmni sy'n gwneud y gwaith eu bod yn dangos sut maen nhw wedi cyrraedd y ffigwr o £4 miliwn am y gwaith ychwanegol. Dw i'n meddwl eu bod yn cymryd y piss, i fod yn garedig - byddwn i hyd yn oed yn mynd mor bell a dweud eu bod yn euog o dwyll.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:04 am

2 sylw:

Mwy fan hyn + chydig o hiliaeth.

Cwestiwn yw, beth yw'r son hyn yn El Reg am gael 'automatic translator' ar gyfer y dogfennau? Galla i feddwl y byddai hynny'n costio tua £4miliwn...wel, oes na unhryw machine trans yn unrhyw iaith sydd yn ffit i gyfieithu dogfennau cyfreithiol...dwi'n amau.

Mae angen cael at waelod y stori hon. Oes posib holi Bwrdd yr Iaith am yr wybodaeth?
sylw gan Blogger Nwdls, 3:21 pm  

Welai i ddim cyfeiriad at 'automatic translator' yn erthygl El Reg nag yn un y WM, mond yn y sylwadau - heblau am ddanfon ffuflenni'n awtomatig.

Ond mae'r sylwadau yn ffiaidd o hiliol ac anwybodus - roedd rhai diweddar am BBC Alba yr un fath.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:02 am  

Gadawa sylw