<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Wylit, Wylit Clewelin

8.2.09

Tra'n edrych ar MySpace Brigyn i weld os ydynt yn chwarae yng Nghaerdydd yn fuan (maen nhw, ar yr 20fed o Chwefror GIG AM DDIM), mi sylwais hefyd eu bod yn Mhontyridd ar yr 28ain. Diawcs, i'r dim meddyliais - cwpwl o beints yng Nghlwb y Bont ac yna ymlaen i'r Miwni am gig.

Ond och! O fynd i wefan y Miwni i weld y manylion, beth sydd ymalen y diwrnod/noson hwnnw yw...

..Taffyfest

Dyma ddisgrifiad o'r digwyddiad hynod yma:
Proud to be Welsh? Are we still the ‘Land of Song’? Will Wales win the Arts Grand Slam of 2009? Answers to all these questions and more will be found in our day-long celebrations on the eve of St. David’s Day. Join us for a festival of contemporary Welsh culture including dance/music/story-telling/poetry-slam/twmpath dawns and much more – and not a male voice choir or brass band in sight!

Featured performers include the great Welsh young hopes CALAN (fresh from their tour of Wales with Genticorum) and RCT based leading storyteller Megan Lloyd. We may just sneak in a Breton Bagad too.
Efallai mai fi sy'n siwr o fod yn or-sensitif (eto), ond alla i ddim dioddef y gair Taffy. I mi, enw sarhaus gan Saeson ydy o, a thra mae'r Miwni'n meddwl bod yna rywbeth ystradebol mewn corau meibion a bandiau pres, tydyn nhw'n gweld dim o'i le ar gyfeirio at eu hunain a'u cyd-Gymry fel Taffy's! Nid nhw ydy'r unig rai chwaith yn anffodus.

Alla i ddim cadarnhau bod adran hyrwyddo digwyddiadau cyngor Rhoindda Cynon Taf wedi bod yn rhoi help llaw i drefnwyr yr Oktoberfest a bydd o hyn ymlaen yn cael ei adnabod fel Jerryfest. Hefyd mae Carnifal Notting Hill o bosib yn mynd i newid ei enw i Wogfest.

Mae ffrind i mi wedi ymuno a chwmni yng Nghasnewydd sydd ynghlwm a'r diwydiant amddiffyn. Fel y gallwch ddisgywl mae llawer o gyn filwyr yn gweithio yno. Mae fy ffrind yn Sais, a soniodd pa mor ryfedd oedd hi gweithio i gwmni yng Nhymru ac un cydweithiwr yn cerdded heibio'r llall, gyda un yn dweud; "Alright Taff", a'r llall yn ateb gyda; "Alright Taff" - dim ond yng Nghymru!
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:26 pm

3 sylw:

Pan o'n i'n yr ysgol ym Mangor, 'Taff' oedd fy llysenw, am mod i'n dod o'r de! Fel plentyn mae'n anodd gwrthod llysenw am ei fod yn rhan o wneud ffrindiau am wn i, ond rydyn ni gyd yn tyfu lan rhywbryd (efallai?)

Mae yna gyd-weithiwr i fi sy'n delio yn aml gyda cwmni yn Lloegr ac yn siarad gyda dyn o'r enw 'Taff'. Ie, o Gymru yn wreiddiol mae 'e, a wedi bod yn beiriannydd yn yr RAF. Ydyn, mae'r bois milwrol ma'n ddychmygus iawn!

Beth bynnag, mae'n nghyd-weithiwr i'n casau ei alw'n Taff am ei fod hi yn ferch o'r cymoedd sydd wedi brwydro yn erbyn y stereoteip. Dyw hi ddim yn siaradwr Cymraeg felly nid jyst ni sy'n gwrthwynebu i'r enw ystrydebol.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 10:02 am  

Yn yr UDA, does bron neb yn nabod "Taffy" fel enw am Gymro, ond gellir prynu losin o'r enw "Taffy" neu "Salt Water Taffy."
dolen
Mae'n wastad yn f'atgoffa o'r ystyr gwarthus Saesneg, er gwaetha'r ffaith nad oes unrhyw gysylltiad o gwbl.

A wyt ti wedi darllen y gerdd ddychanol hon gan Alun Rees?
dolen
Doeddwn i heb glywed honno, ond diolch - mae'n un da. (Dyw'r dolen didm yn gweihtio an gwglais o)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:02 am  

Gadawa sylw