<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Y Cymro slopi

31.3.09

Nid teitl nofel newydd gan Mihangel Morgan yw hwn ond fy nisgrifiad i o'r papur newydd Y Cymro (buaswn yn rhoi dolen at wefan y papur petai un).

Yn rhifyn wythnos diwethaf, mae'n frith o wallau teipio (ok, mae fy nghofnodion blog innau'n frith o wallau hefyd, ond nid papur cenedlaethol mo GdF).

Dyma enghreifftiau i chi:
-mewn ambell erthygl, roedd bwlch rhwng geiriau ar goll
-mae gwr o Langernyw yn mynd i fod yn 'padlo' ar ei feic o Gaerdydd i Fae Colwyn - siawns mai 'pedlo' fydd o?
-mewn erthygl am yr ymwybyddiaeth isel ymysg y boblogaeth am y drafodaeth am drosglwyddo grym i'r Cynulliad, mae 'per cent' yn cael ei ddefnyddio tair neu bedair gwaith pan yn trin canranau (yn hyrach na 'y cant')
-mewn hysbyseb gan Fwrdd yr Iaith, yn eironig ddigon i hyrwyddo'r defnydd o feddalwedd Cymraeg o dan y teitl Y Gymraeg a'r Chwyldro Technolegol, mae'r frawddeg canlynol:

...os nad yw pawb yn y swyddfa neu'r tyn siarad Cymraeg...

Dw i ddim yn gwybod os mai camgymeriad yn yr hysbyseb wreiddiol gan y Bwrdd oedd o, neu gan Y Cymro, ond y naill ffordd roedd yn edrych yn wael. I ddweud y gwir roedd yr hysbyseb yn hynod o sal, roedd yn darllen fel traethawd - redd rhaid darllen hyd at yr 8fed llinell cyn deall mai erthygl am y Gymraeg ar y we ydoedd, a hyd yn oed wedyn doedd ddim yn dweud llawer. Dylai yna fod lai o ysgrifen, a dylid dangos ychydig o sgrinluniau, yn enwedig gan fod yr hysbyseb yn hanner tudalen. Mae sôn am Facebook, Googl a Microsoft, ond dim sôn am Firefox nac Open Office.
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:26 pm

1 sylw:

iasu, dyw hynna ddim byd 'chan... wy'n cofio nhw'n cyhoeddi datganiad i'r wasg wrtho fi yn ei gyfanrwydd GAN GYNNWYS Y GEIRIAU DATGANIAD I'R WASG A'R DYDDIAD!!

garmon
sylw gan Anonymous Anonymous, 6:28 pm  

Gadawa sylw