<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



WhatDoTheyKnow.com

20.1.09

Os ydych chi'n berson busneslud fel fi, yna bydd ganddoch diddordeb ym mhrosiect diweddara mySociety, sef WhatDoTheyKnow.com.

Pwrpas y wefan yw ei wneud yn haws i bobl wneud ceisiadau am wybodaeth i wahanol sefydliadau cyhoeddus o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Os ydych am wneud cais am wybodaeth, mae sawl mantais defnydido'r wefan yma:
1. Does dim rhaid pori drwy wefannau unigol y gwahanol sefydliadau am gyfeiriad e-bost
2. Gall pobl eraill weld pa fath o gwestiynnau rydych yn ei gofyn, ac yr atebion rydych yn dderbyn
3. Gallwch danysgrifio at ffrwd RSS gwahanol sefydliadau er mwyn cael gwybod pa geisiadau maent yn dderbyn, ac yna gallwch weld os ydynt yn ymateb o fewn amser

Rhywbeth arall, sydd efallai ddim yn cael ei bwysleisio gan mySociety yw'r mantais a all y wefan fod i sefydlaidau. Gan bod modd ymchwilio am wybodaeth sydd eisioes wedi ei ryddhau (dim ond gan geisiadau drwy'r wefan yma), fe all osogoi gwahanol bobl yn gwneud ceisiadau am yr un wybodaeth dro ar ôl tro.

Dwi wedi tanysgrifio i ffrwd Cyngor Caerdydd, Llywodraeth y Cynulliad, S4c a Bwrdd yr Iaith. Tydy S4C na BYI wedi derbyn cais eto. Y diwethaf i Gyngor Caerdydd ei dderbyn oedd hwn:
Could you please indicate whether or not your organisation operates
a bi-lingual policy.

If it does could you please answer the following questions:-

1. What percent of staff are able to speak fluent Welsh. 2. What
percentage of staff speak and write fluent welsh. 3. Do you have a
unit specifically for translation. 4. How many staff work in your
translation unit. 5. What is the approximate overall cost of having
a bi-lingual policy in place (this should take into account the
cost of the running the translation unit, extra stationary extra
postage and the time taken to get documents translated) Furthermore
could this please be broken down by year since the last Local
Government reorganisation)

Many thanks

Yours faithfully,

Barnacle Bill
Mae 'Barbacle Bill' (ddim ei enw iawn mae'n siwr) wedi gofyn yr un peth i sawl awdurdod lleol arall yng Nghymru, ond o glicio ar ei broffeil, mae'n gwneud nifer o ymholiadau amrywiol - eto, gallwch danysgrifio i ffrwdd RSS unrhyw ddefnyddiwr y wefan.

Son am Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gyda chi tan yfory i gysylltu â'ch AS i ofyn iddynt wrthwynebu newidiadau i'r ddeddf fydd yn eithrio eu manylion treuliau nhw nhw a'r Arglwyddi rhag cael eu rhyddhau.

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:30 pm

0 sylw:

Gadawa sylw