<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Google Street View yn dod i Gaerydd, Abertawe A'R BARRI A PHENARTH

20.3.09

Yn mis Mehefin, soniodd Mei fod cerbyd Google yn mynd o gwmpas Cymru er mwyn casglu delweddau ar gyfer Google Street View, sy'n eich galuogi chi i weld strydoedd mewn 3-D.
Mae'r gwasanaeth ar gael rwan ar gyfer lleoliadau yn y DG, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, y Barri a Phenarth yng Nghymru (er mai mond Abertawe a Chaerdydd sy'n cael eu crybwyll yn y cyfryngau).
Mae fy hen gar i wedi cael ei anfarwoli ar y gwasanaeth.

'Car Bach Coch' ar Google Street View
Dyma'r adeilad dw i'n gweithio ynddo.
Diddorol oedd darllen y blog Google Blogscoped, ble rodd sylwadau'n son am sut mae'r meddalwedd cuddio wynebau hyd yn oed yn ymestyn i furluniau ym Melffast, ac yn yr Iseldiroedd mae 'sgandal' wedi i gyflwynydd adnabyddus gael ei weld gyda dynes arall (er sut, mond sefyll neas i'w gilydd maent).
Gallaf weld gwerth i'r gwasanaeth. Cyn mynd i lefydd diarth, mae mapiau yn help o flaen llaw, ond os nad ydych eisiau bod yn cerdded rownd gyda'ch trwyn mewn map, mae Google Street View yn rhoi gwell syniad o sut bydd y lle'n edrych a beth i edrych allan amdano.
All rhwyun feddwl am bethau creadigol y gelli'r wneud gyda hwn? Efallai y gwnaf recordiad o fy nhaith seiclo i'r gwaith.
Mae blogiau eraill fel Inside Cardiff a Wales Social Media hefyd yn trafod y gwasanaeth, gyda WSM yn trafod hawliau preifatrwydd unigolion.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:22 pm

0 sylw:

Gadawa sylw