<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Story Raunchy am Golwg.

28.11.08

Mae 'deryn bach wedi dweud wrtha i bod Golwg wedi bod yn ddrwg a defnyddio lluniau heb ganiatad. Yn rhifyn wythnos diwethaf, roedd erthygl am ddawnsio Burlesque, ac roedd tri llun yn cyd fynd â'r erthygl, ac un ar flaen y cylchgrawn ac un arall ar y dudalen cynnwys. Yn anffodus, mae'r sawl a dynnodd y lluniau yma i gyd, sy'n brysur yn ceisio datblygu ei yrfa fel ffotograffydd wedi dod i wybod am y peth ac yn flin uffernol fel gallwch ddychmygu. Mae wedi danfon bil at Golwg Cyf.

Mae ambell i berson wedi sylwi bod eu lluniau Flickr nhw'n ymddanogs yn y cylchgrawn hefyd (sy'n berffaith iawn wrth gwrs os ydy'r person yn cyhoeddi eu lluniau ar drwydded Creative Commons a bod y cylchgrawn yn cofio rhoi cydnabyddiaeth)

Golygwyd.
Wnes i ddim enwi'r person oedd yn berchen ar y delweddau, ond mae Owen wedi postio dolen at ei flog ei hun ble mae'n adrodd y stori.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:10 pm

5 sylw:

Oen nhw'n lluniau off y rhyngrwyd Rhys. Wi'n rhoi lun off y rhyngrwyd ar bob un cofnod ar fy mlog a sdim byd yn stopo fi rog ei wneud e ran fwya'r amser. Wi'n sylwi nag oes lot o bobol yn neud hwnna - odw i'n torri rhyw hawlfraint wrth ei wneud e; fel arfer wi'n gwglo rhywbeth a gwasgu images am y llun ond ifi yn cymeryd pethach off gwefannau witha.
sylw gan Blogger Cer i Grafu, 3:23 pm  

Mwy na thebyg, mae gan y ffotograffydd wefan sydd a'r lluniau yma arnynt.

O ran be ti'n wneud, dw i ddim ym arbennigr cyfreithiol, ond mwy na thebyg dylet ti ddim gwneud oni bai dy fod yn gwybod o sicrwydd nad ydynt o dan hawlfraint, ond mae'n anhebygol nad wyt ti'n mynd i gael dy ddal, ac yn bwysicach fyth (?), dwy ti ddim yn gwneud arian drwy dy wefan.

Hefyd, wyt ti'n llwytho'r lluniau at dy gyfrif Blogger, neu lincio'n syth at y llun o'r wefan arall?

Mae hynny'n cael ei alw'n Bandwidth theft. Hyd yn oed os nad oes ots gyda rhywun dy fod yn defnyddio eu delweddau, bydd hyn yn eu pisio i ffwrdd os ydyn nhw'n talu am lety eu gwefan (yn wahanol i ni sy'n defnyddio Blogger) + mae'n nhw wedyn yn gallu gweld bod y linc yn dod o dy wefan di.

Yn wahanol i dy flog, mae Golwg yn gylchgrawn sy'n cael eu ddarllen gan filoedd o bobl (dyna eu honiad nhw ta beth!) ac yn fenter masnachol, felly dylent fod yn fwy gofalus a thalu am luniau dan hawlfriant. Hefyd, gan bod Cymru (ynenwidig by Gymru Gymraeg) yn le mor fach, mae mwy o siawns i chi gael eich dal ac chreu, heb son am greu drwg deimlad.

Gwnes i ffeindio allan am hyn achos mae'r ffotograffydd dan sylw yn nosbarth Cymraeg a fy ngwraig - dw i'n cymryd foydd o ddim yn tanysgrifio i Lingo!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:40 pm  

Dwi ddim yn darllen Golwg bellach ond dwi'n gwybod fod nhw'n dwyn lluniau, a dyna pam mae gen i sylw wrth rai o fy lluniau Flickr.

Dyw rhoi ambell lun (o faint bach) ar flog ddim yn broblem - a mae'n hawdd ei tynnu nhw lawr os oes cwyn. Mae llun mewn cylchgrawn yno am byth.

Os oeddwn i yn gwneud bywoliaeth allan o ffotograffiaeth mi fasen i'n pisd off hefyd. Mae'r NUJ yn rhestru cyfraddau galle rhywun ddisgwyl ar gyfer gwaith ffrilans sy'n cael ei gyhoeddi. Dwi'n eitha sicr na fyddai newyddiadurwyr Golwg yn fodlon gweithio am ddim.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 10:49 pm  

Wel, gall berson weld pam byddai Golwg yn dwyn lluniau. Cawson nhw ddim ond £600,000 ar gyfer eu gwefan nad-yw'n-bodoli. Prin allant fforddio golchi eu dillad mewn dŵr Tŷ Nant erbyn hyn. They're paupers over there. Sut ydyn nhw i fod yn talu am luniau?
sylw gan Blogger Chris Cope, 9:29 am  

http://owainr.livejournal.com/1966.html
sylw gan Anonymous Anonymous, 4:31 pm  

Gadawa sylw