<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gwladwriaeth Prydain yn gorfodi ei dinasyddion i ddefnyddio Meddalwedd Rhydd

18.10.08

Efalle mod i wedi gorlywio'r teitl, ond dyma fi'n cael sgwrs gyda fy nhad yn ddiweddar ar y ffôn (dw i yn eu ffonio'n wythnosol gyda llaw, rhag ofn bod y frawddeg yn gwneud i mi swnio fel tydw i byth yn siarad â'm rhieni) a cefaid tipyn o sioc.

Mae fy nhad yn ffarmwr, ac wedi iddo orffen ei wythnos gwaith 80+ awr yn y gwynt a'r glaw, y cwbl sydd rhaid iddo wneud wedyn ydy treulio ychydig oriau eto'n gwneud y gwaith papur. Bu rhaid i Dad gael cyfrifiadur newydd rhai wythnosau'n ôl, a cafodd tipyn o fraw gweld MS Vista ac ail-ddysgu ble mae'r holl fotymau.

Pan ddaeth hi'n amser cofrestru ymadawiad un o'r bustych a werthwyd ar y System Olrhain Gwartheg ar-lein*, doedd fy nhad yn methu deall pam nad oedd yn gweithio. Mae dad yn gweld eu gwasaneth ar-lein yn tipyn llai o sdrach na gorfod danfon newidiadau drwy'r post, felly ffoniodd eu llinell gymorth. Dwedon nhw nad oedd eu gwefan yn addas ar gyfer Internet Explorer 7, ac fe awgrymon nhw bod Dad yn defnyddio Firefox. Dw i wedi bod yn trio cael dad i ddefnyddio Firefox ond tydy o ddim yn hoffi fi'n potsian gyda ei gyfifiadur yn ormodol wedi i mi ladd ei liniadur gwaith (pan fu'n gweithio i'r Weinyddiaeth Amaeth tua 15 mlynedd yn ôl)!

Er fod gosod Firefox yn hawdd uffernol (dw i wedi llwyddo for God sake), mi gynnigodd y boi ar y llinell gymorth y byddai'n ffonio fy nhad yn ôl a'i helpu i lawrlwytho a gosod Firefox. Er fod y ffaith nad yw eu gwefan dal ddim yn gweithio ar IE7 yn dangos pa mor ar ei hol hi mae adrannau'r llywodraeth wrth gadw i fyny gyda datblygiadau technolegol, roedd yn fy synnu bod nhw mor barod wedyn i helpu fy nhad i ddefnyddio Firefox - yn enwedig gan mai'r unig borwyr mae eu tudalen Gwybodaeth am Dechnoleg y We* yn grybwyll ydy IE, Netscape ac AOL. Get with the pogramme myn uffar.

Rhagor bosteri Meddal yma.

* Byddwn wedi eich cyfeirio ar y fersiynnau Cymraeg gan bod eu gwefan yn hollol ddwyieithog, ond allai'm rhoi dolen atynyt, gan mae drwy ddefnydio Java-script mae newid iaith!

Gol. Wedi i dad fynd i'r trafferth (a'r gost - mae dad dal ar dial-up) o lawrlwytho a gosod Firefox, dyma sylweddoli mai dim ond Firefox 1.5 mae'r wefan yn gefnogi. Does unman y gallwch lawrlwytho hwn o'r we hyd y gwela i, ond daeth Meddal.com i'r adwy unwaith eto, gan mod i wedi prynnu CD-ROM ganddynt yn Eisteddfod Abertawe oedd yn cynnwys Firefox 1.5. Iesu, sôn am drafferth!

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:23 pm

1 sylw:

Waw, mae'r wefan yna yn esiampl perffaith o pam na ddyle datblygwyr ddefnyddio technolegau sy'n 'ffasiynol ar y pryd' yn enwedig ar gyfer gwefannau cyhoeddus fydd ar lein am flynyddoedd maith.

Wedi dweud hynna cafodd y wefan ei greu tua Awst 2005 ac yn defnyddio HTML a Javascript fydd wedi bod yn hen ffasiwn yn 2001 heb sôn am 2005.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 3:10 pm  

Gadawa sylw