Y Daily Post yn lawnsio fersiwn Cymraeg ar-lein
28.8.08
Ddoe sylwais ar hwn am y tro cyntaf, dw i ddim yn siwr ers faint mae wedi bodoli.
www.dailypostcymraeg.co.uk
Mae'n ymddangos mai crynodiad o'r erthyglau Saesneg sydd i'w gael yma, yn hytrach nag erthyglau gwreiddiol o sylwedd, ac o ddarllen yr erthygl yma, tydi treiglo ddim yn un o gryfderau'r cyfieithydd (buddsoddwch mewn Cysgliad bois!).
Mae blogiau Cymraeg i'w cael yma, gan gynnwys un 'Byd Busnes' gan y dirprwy brif weinidog Ieuan Wyn Jones.
Digon hawdd yw bod yn feirniadol wrth gwrs, ond mae eisiau canmol yr ymdrech, a diddorol eu bod yn gwneud hyn rwan hefyd.

2 sylw:
Odd hwn yn dipyn o syrpreis i mi hefyd! Mae'n edrych fel ei fod wedi bodoli yn ddistaw bach ers ychydig wythnosau. Does yna ddim llawer o bethau fel hyn yn y Gymraeg sydd ddim yn derbyn rhyw fath o nawdd gan y wlad. Gobeithio y bydd yn llwyddianus ac yn datblygu a gwella yn y dyfodol.
sylw gan Anonymous, 10:30 pm
ia, chwarae teg, mae nhw'n ei wneud heb unrhyw nawdd o gwbl, rhywbeth pur unigryw dyddiau hyn am unrhyw gyhoeddiadau Cymraeg mewn print.