<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Y Llyfrgell Genedlaethool yn rhannu delweddau a Wicipedia (cheisio gwenud gyda Wikipedia)

18.8.08

Bu cryn gynnwrf ar y Wicipedia (wel, o ryw fath) pan gyhoeddodd rhywun ar ran y Llyfrgell y dymunant rannu delweddau gyda Wicipedia a Wikipedia fel arbrawf yn ystod mis Awst.
Nid oes polisi cadarn ar y Wicipedia Cymraeg ynglŷn (ar hyn o bryd!) a derbyn delweddau nad ydynt yn rhydd, yn wahanol iawn i'r Wikpedia Saesneg sydd ond eisiau delweddau rhydd - oni bai eu bod yn cwrdd a meini prawf arbennig.

Mae'r Llyfrgell yn caniadau i'r delweddau (o gasgliad John Thomas yn unig), gael eu defnyddio ar y Wicipedia, ond nid oes hawl wedyn i'r delweddau gael eu defnyddio unrhyw le arall heb ganiatad.

Mae'r llyfrgell yn gofyn pa ddelweddau sydd eu heisiau. Mae modd gwneud cais ar dudalen sgwrs y Llyfrgell. Dyma rai o'r delweddau sydd wedi eu llytho hyd yma.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:25 pm

1 sylw:

syniad gwych! Mae gymaint o adnoddau a chasgliadau gan y llyfrgell mae'n hyfryd (ac yn egwyddorol gywir)eu bod yn barod i'w rhannu.

Datblygiad wirioneddol gynhyrfus.
sylw gan Anonymous Anonymous, 1:14 pm  

Gadawa sylw