<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Tescopoly yng Nghaerdydd

20.2.07

Roedd rhaglen ar y teledu neithiwr am Tesco o'r enw The Supermarket That's Eating Britain. Gallwch ddychmygu beth oedd natur y rhaglen, ac er nad oedd yn ddim sioc i mi, roedd yn agoriad llygiad i rai o'r Tesco-addolwyr yn y swyddfa. Roedd Caerdydd yn un o'r dinasoedd oedd y cael ei grybwyll yn y rhaglen ble bu llwyddiant o ryw fath mewn gwrthwynebiad i agor cangen yn maestref gogleddol Llwynbedw, yn bennaf oherwydd problemau traffig difrifol mae'r Tesco Express Yr Eglwys Newydd yn achosi.

Mae yna lawer iawn o Tesco's fformat llai wedi agor yng Ngaherdydd yn ddiweddar, maen't yn ymddangos fel madarch dros nos bron. Yn ddiarwybod i mi, mae ail un wedi agor ar Heol y Bontfaen reit o dan fy nhrwyn i! Dwi wedi plotio'r rhai dwi'n ymwybodol amdanynt ar y map isod, allwch chi feddwl am fwy?

map wedi ei dagio gyda tescopoly gan user - Tagzania

Tra'n ymchwilio am leoliadau'r uchod, gyda yell.co.uk a Google local, doedd pob cangen ddim yn ymddangos. Sgwn i os yw hyny'n fwriadol gan y cwmni?

Blogiau eraill am Tesco:
Supermarket sweep up
Rhuthun/Ruthin


Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:16 am

2 sylw:

Fe welais y rhaglen a roedd yn frawychus nid yn unig fod Tesco yn adeiladu siopau ymhobman, ond eu bod yn blocio cwmniau eraill rhag agor rhai eu hunain. Monopoli llwyr.
sylw gan Blogger Gareth, 11:40 am  

Dyma stori reit drist yn ddiweddar am sgil-effeithiau Tesco yng Nghaerdydd.
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 11:53 am  

Gadawa sylw