
Mae'n debyg mai fi yw un o'r pobl diwethaf i newid fy nghyfrif drosodd, ond dyna yw fy natur i sef osgoi gwneud rhywbeth nes bod wir rhaid. Fy rheswm dros beidio gwneud oedd poeni beth fyddai'n gwneud i'm patrymluniau. Yn y diwedd doedd dim eisiau i mi boeni, gan fod popeth (fel y gwelwch ar y blog yma) yn edrych yr un fath. Er os dwi eisiau defnyddio elfennau ychwnaegol y Blogger newydd, rhaid uwchraddio'r patrymlun, ac mae hyn yn cyfyngu dewis, ac yn golygu eich bod yn colli pethau fel
dyddiadau Cymraeg, ac unrhyw waith cyfieithu arall - er
mae'n haws gwneud rhai addasiadau sylfaenol rwan.

Un o'r prif bethau newydd sydd ar gael yw 'Labeli' (sef dull o gategoreiddio pyst). Tydi hyn ddim yn rhywbeth defnyddio i'r mwyafrif o flogiau, ond mae hyn yn rhywbeth dwi wedi bod eisiau ar gyfer
Dysgwyr De Ddwyrain, fel bod pobl yn gallu ymchwilio yn ôl math o weithgaredd/digwyddiad neu yn ôl sir/tref. Tydi'r ffordd mae'r labeli'n cael eu danogs (gwele'r llun ar y chwith) ddim yn ddeiniadol iawn - a gall fynd yn restr hir. Drwy ddefnyddio'r
cyfarwyddiadau yma, gall eich labeli ymddangos fel 'cwmwl labeli' (tebyg i
gwmwl tagiau) - gweler llun ar y dde.
Mae yna ambell beth arall defnyddiol, sef y gallu i ddangos
porthiant o wefannau eraill. Dwi wedi cymeryd porthiant o restr digwyddiadau
Mentrau Iaith y de ddwyrain.
blogger,
tagio,
labeli,
labels,
web2.0,
blogioGenerated By Technorati Tag Generator