<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Llygru (y Gymraeg)

30.11.06

Yn mis Gorffennaf, dyma fi'n danfon llythyr/e-bost at bob un o'r 70 papur bro yn sôn am fy ngwefan jobscymraeg.com. Tric bach digwilydd mewn ffordd oedd i gael hysbys am ddim, er dwi'n bwriadu talu am hysbysebion ynddynt yn y dyfodol. Mae'n debyg bod cyfanswm darllenwyr yr holl bapurau bro yn llawer uwch na nifer darllenwyr Golwg a'r Cymro.

Oherwydd natur y Papurau Bro, ni chefais wybod ym mha rai y cafodd y llythyr ei gyhoeddi, er fe gysylltodd rhyw 4 i ddweud wrthyf eu bod yn gwneud, a dwi wedi clywed gan deulu a perthnasau ac ambell gyflogwr eu bod wedi darllen am y wefan mewn amryw i bapur bro arall ar draws y wlad - a dwi'n ddiolchgar iawn am y cyhoeddusrwydd. Mae'n ymddangos bod fy llythyr yn cael ei gyhoeddi mis yma yn rhai papurau, ac mewn ffordd mae'n dda nad ydynt i gyd wedi ymddangos yr un pryd.

Bore heddiw fe ganodd fy ffôn symudol, ac roedd yna Dr Lewis ar ochr arall y ffôn. Roedd wedi darllen am fy hysbysebiad ym Mhapur y Cwm (gwych meddyliais i, dyma fydd hysbysebiad swydd arall), ond nid dyna pam roedd yn ffonio. Roedd eisiau gybod pam mod i wedi dewis defnyddio'r enw Saesneg 'jobs' i'r wefan oedd yn hyrwyddo gwasaneth Cymraeg. Dywedodd ei fod o ac eraill o'r colegau (dwi ddim yn gwbod pa rai) "yn cadw llygad barcud a'r lygru'r iaith Gymraeg". Esboniais iddo bod dau reswm
  1. Gan mod i'n gobeithio denu cyflogwyr di-Gymraeg i ddefnyddio'r wefan i gyflogi staff dwyieithog, efallai na fyddai 'swyddicymraeg.com' yn golygu llawer iddynt
  2. Mae'r enw parth swyddicymraeg.com eisioes yn perthyn i gwmni recriwtio, a swyddi.com i hen wefan sydd ddim y weithredol ar hyn o bryd.
Roeddwn ychydig yn miffed (wps, blin dylswn ddweud) gyda'r dyn. Roedd rhywun wedi gofyn yr un cwestiwn i mi yn yr Eisteddfod tra roeddwn yn hyrwyddo'r wefan, ond roedd hynny mond allan o diddordeb. Allai'm credu fod y gwr wedi fy ffonio yn unswydd i'm holi (ac efallai'm cyhuddo a rhoi llond ceg i mi os na fyddwn wedi bod gyda chystal atebion iddo).

Dwi'n ymgyrchu dros y Gymraeg fy hun mewn sawl ffordd, trwy fy ngwaith a thrwy ddulliau eraill yn fy amser fy hun, a dwi hefyd yn cynnwys y wefan jobscymraeg.com fel cyfraniad i'w wneud yn haws i gyflogwyr gyflogi siaradwyr Cymraeg, ac felly darparu gwell gwasaneth dwyieithog i ni fel cyhoedd. Allai'm credu fod y gwr wedi fy ffonio yn unswydd i'm holi (ac efallai'm cyhuddo os na fyddwn wedi bod gyda chystal atebion iddo).
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:39 pm

4 sylw:

Mmmm, don't let the buggers get you down... Efallai fyddai hi'n well gyda Dr Lewis os ro't ti ddim i gynnig y gwasanaeth yn cyfan gwbl?
sylw gan Anonymous Anonymous, 9:13 am  

Wyt ti wedi holi am gymryd drosodd neu brynu y parth swyddi.com (achos mae'n hollol ddi-bwynt a gwastraffus ar y foment).
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 10:00 am  

Diolch am yr ymatebion

Dwi ddim yn cymeryd beth mae'r boi yn ddweud yn rhy o ddifri, dwi'n deall bod lleafrif (bychan iawn diolch i dduw) o siaradwyr Cymraeg gyda'r meddylfryd; "os nad ydych am siarad Cymraeg cywir, byddai'n well gyda fi petai chi ddim yn siarad Cymraeg o gwbwl". Mae'r pobl yma yn gwneud mwy oddrwg na lles yn fy marn i, ac yn gwneud dim i annog mwy o bobl i siarad Cymraeg.

O ran y wefan swyddi.com, dwi'n meddwl fod y perchennog yn ceisio ail lawnsio'r wefan yn araf bach. Pan ddechruais i feddwl am syniad fy ngwefan i a chilio am wahanol enwau parth, doi ar draws swyddi.om bryd hynny ac mae wedi ei addasu tipyn ers hynny. Ond fel ti'n dweud, mae'n wastraff llwyr ar hyn o bryd - a braidd yn wirion gadael y wefan yn fyw.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 10:12 am  

Aaaararrrrgggghhhh! Sôn am chwarae'r ffidl tra bod Rhufain mewn fflamau.
sylw gan Blogger Nic, 9:58 am  

Gadawa sylw