<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Lluniau 'mental' o Ddinbych

28.11.06

Wrth chwiltoa dry Flickr, dyma luniau o du mewn i'r hen Ysbyty Meddwl. Fel y gwelwch o'r lluniau mae'r adeilad wedi dirywio llawer ers cau yn y 1990'au. Bu'n wag am sawl blwyddyn, yna gwerthyd y safel am fargen (£250,000) i ddatblygwr o ochrau Caer, gan fod y Bwrdd Iechyd wedi cael digon o'r costau diogelwch uchel. Roedd pob math o gynlluniau yn cael eu trafod - safle ar gyfer swyddfeydd cyngor, coleg, gwesty, ond adeiladu tai ar y tir oedd cynllun y datbygwr. Pan fu gwrthwynebiad i hyn gan drigolion lleol a'r cyngor sir, fel wnaeth y datblygwr dynnu'r llechi o'r to a malurio'r lle yn fwriadol, gan gynnwys dechrau tân. Er bod yr adeilad gyda hanes trist, roedd yn engrhaifft unigryw o bensaerniaeth y cyfnod.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:18 pm

2 sylw:

Diolch am hyn, lluniau diddorol iawn. Brydferth mewn ffordd, ond gan wybod tipyn bach o hanes y lle, mae'n brydferthwch trist dros ben.
sylw gan Blogger Nic, 3:06 pm  

Diddorol ac yn ddychrynllyd ydy'r lluniau hyn. Dydw i dim yn gyfarwydd â Dinbych, ond rwyf wedi darllen "Un Nos Ola Leuad," ac yn cofio'r cymeriadau yn cael eu cymryd i ffwrdd i "Ddimbach, i'r Seilam." Mae'r lluniau yma'n creu delwedd boenus o'r gwirionedd tu hwnt i'r nofel. Adeilad gwych, ond yn anffodus yn dangos tristwch a chreulondeb y gorffennol.

Gadawa sylw