<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Yr hen ffordd Gymreig o fyw

30.6.06

Dwi'n mynd i'r gogledd y penwythnos yma i helpu fy nhad gyda'r cneifio yn Hafodty. Plygu'r gwlan fydda i nid y cneifio ei hun. Dwi heb wneud hyn ers sawl blwyddyn (7 mlynedd neu fwy efallai). Roeddwn yn casau'r diwrnod pan yn iau gan nad ydw i'n farm boy o bell ffordd. Er nad yw'r cneifwyr yn greulon, mae'r defaid yn naturiol yn cael braw pan maent yn gael eu gwasgu rhwng coesau Cymro nau Maori mawr ac felly'n tueddu cachu a piso eu hunain, sy'n gwenud y dasg o blygu'r gwlan yn amhleserus. Ond mwy fwy dwi'n meddwl am adref a'r ffaith bydd fy nhad am dau ewythyr (sydd a dim plant) yn ymddeol yn fuan, dwi'n sylweddoli bod rhywbeth sydd wedi digwydd am genedlaethau am ddod i ben a bydda i'n ei fethu.

Y tywydd ac argaeledd y criw cneifio sy'n penderfynnu pryd mae'r cneifio'n digwydd, ond eleni dwi wedi gwneud fy ngorau i fod ar gael. Petai hi heb lawio ganol wythnos byddai wedi digwydd dydd Mawrth. Eto'r tywydd ac argaeledd contractwr sy'n penderfynnu pryd mae'r cynheuaf gwair, rhywbeth hoffwn helpu unai fy nhad neu'm dau ewythr gyda eto rhywbryd.

Os chi'n lwcus mi gymeraf lun neu ddau gyda'r camra digidol, ond dyw tynnu lluniau ddim yn beth macho ofnadwy i wneud ac os bydd Bob Bron Felen yno (fo oedd arfer trefnu'r cneifwyr, ond mae ei gefn yn rhacs o'r herwydd) bydd yn rhwygo'r troeth ohonaf.

, , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:08 pm

2 sylw:

Diddorol yw gweld ble'r oeddet arfer a byw, ar Tagzania. Ddim yn bell iawn o Abergele! :-)
sylw gan Blogger Huw, 7:44 am  

Fues i eriod yn byw yn Hafodty (Llannefydd), hen gartref dad ydi o a phan symudodd fy rhieni'n ôl i Ddyffryn Clwyd jyst cyn i mi gael fy ngeni, dyma tir y ferm yn digwydd dod ar werth. Mae teulu taid (ochr mam) yn dod o ardal Llanfair Talhaearn. :-)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:49 am  

Gadawa sylw