<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Euskal Herria Rhan 1: 5 munud arall o enwogrwydd

29.5.06

Dechreuodd fy anturiaeth Basgaidd cyn i mi adael Cymru fach hyd yn oed. I gyd-fynd â'r ffaith bod Biarittz wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Heiniken yng Ngaherdydd a bod tim pêl-droed Cymru'n ymweld â Gwlad y Basg am gêm gyfeillgar, dyma Luistxo Fernandez o Code Syntax yn ysgrifennu erthygl o'r enw Teknofilo euskaldunak eta galestarrak ('Tecnoffeil Basgaidd a Chymraeg' - dwi'n meddwl) ar Sustatu.com, sef gwefan tebyg i Slashdot, ond mewn Basgeg (mater o raddfa ydi o i gyd fel mae Luistxo yn fy atgoffa!).

Mae'r erthygl yn cymharu datblygiad y Rhithfro gyda beth sy'n digwydd mewn Basgeg ar y wê. Ymysg pethau eraill, fel ymweliad Cymuned â Gwlad y Basg, mae'r blog hwn yn cael ei grybwyll a'r ffaith mod i wedi helpu i gyfieithu Tagzania i'r Gymraeg.

Peidiwch gofyn i mi gyfieithu dim ohono gan nad oes fawr of Fasgeg gyda fi heblaw am 'Eskerrik asko', 'Bai' and 'Non daude komunak?' ('Diolch', 'Ia' a 'Ble mae'r lle chwech?' - diolch BBC), ond braf oedd yr ego trip o feddwl bod pobl o wlad a diwylliant arall yn eich trafod ac hefyd roeddwn wedi dotio o weld fy nghyfenw diflas yn ymddangos yn egsotig am unwaith gan fod gramadeg Basgeg yn ei newid i Wynnek.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:16 pm

0 sylw:

Gadawa sylw