Y Rhithfro ar Blogamundo + Dyfalwr Iaith
5.5.06
Mewn post o'r enw Languages of the Blogosphere mae Patrick Hall yn trafod canlyniadau arolwg o'r enw State of the Blogosphere. Mae'r arolwg yn edrych ar y newidiadau yn 'nemograffeg ieithyddol' y byd blogio a sut mae'r iaith y mae'r mwyafrif o flogiau cael eu hysgrifennu ynddynt yn newid. Yn ôl yr arolwg, mae Siapaneg wedi cymeryd lle'r Saesneg fel prif iaith.
Mae yna lawer sy'n dadlau nad yw'r canlyniadau'n arwyddocaol iawn yn bennaf gan fod y modd mae'r data wedi ei gasglu yn rhyfedd braidd, ac oherwydd natur blogio a'r technoleg sydd tu cefn iddo mae'n anodd iawn bod yn gywir.
Yn ôl Patrick, mae llawer mwy o ddiddordeb gyda fo yn y twf ymysg blogiau mewn ieithoedd llai, ac mae'n mynd ymlaen i sôn am y Rhithfro ac yn crybwyll Morfablog:
blogio, rhithfro, iaith, blogamundo
Generated By Technorati Tag Generator

For me the most insteresting linguistic data with regard to the blogosphere isn’t in the top ten, it’s in the nascent blogging communities that are just now popping up. I watched with amazement as the Welsh blogosphere grew from just one guy into a sprawling community. There seemed to be a “critical mass” sort of phenomenon that took place there: suddenly there were too many Welsh blogs to keep in your aggregator.Doeddwn ddim yn siwr os oedd blogiau mewn ieithoedd lleafrifol fel y Gymraeg yn cael eu cyfrif fel blogiau Cymraeg neu fel blogiau mewn 'iaith arall' neu fel blogiau Saesneg (gan mai rhyngwyneb Saesneg fydda'n ni fel arfer yn ddewis wrth ddechrau blog yn Blogger er enrhaifft, ond ymddengys eu dod yn fwy soffistigedig na hynny. Mae rhaglen o'r enw Languid, ble gallwch os osodwch destun mewn blwch, mae'n dyfalu pa iaith ydyw. Sôn am glyfar!
blogio, rhithfro, iaith, blogamundo
Generated By Technorati Tag Generator
2 sylw:
Da 'di'r dyfalwr iaith...wedi rhoi 2 frawddeg ynddo yn Gymraeg; mi oedd y cynta'n Lladin a'r ail yn Sbaeneg medda fo!
sylw gan Tegwared ap Seion, 2:31 pm
Efallai mai adlewyrchiad ar dy Gymraeg di oedd hynna.
;-)
Mi roddais i un frawddeg Cymraeg mewn a dyfalodd yn gywir
;-)
Mi roddais i un frawddeg Cymraeg mewn a dyfalodd yn gywir