<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Galestarrak gara (Cymry ydym ni)

2.5.06

Dwi newydd ddod ar draws blog o'r enw galestarrak gara ('Cymry ydym ni' neu 'Da ni o Gymru' mewn Basgeg) gan foi o'r enw Alwyn sy'n mynd i Wlad y Basg i wylio'r gêm.

O be dwi'n ddeall mae Alwyn yn gyfarwydd â'r wlad a phwrpas y blog yw rhannu gwybodaeth a chynnig awgrymiadau am lefydd i fynd a gweld ayyb tra chi draw, wedi ei selio'n bennaf ar Donoista. Mae'n flog ar y cyd gyda 6 cyfrannwr, ond mond Alwyn sydd di postio hyd yma.

Dwi newydd gael syniad, sef dechrau 'pwll' ar Flickr o'r enw galestarrak gara, beth am ymuno?

Hefyd, beth am gofrestru â Tagzania sydd rwan ar gael yn Gymraeg a dechrau tagio llefydd rydych am ymweld â gyda'r tag galestarrakgara

, , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:10 pm

1 sylw:

Gah, fy llygaid. Mae'r flog 'na'n anodd i fi i ddarllen.
sylw gan Blogger Chris Cope, 5:53 pm  

Gadawa sylw