Eich barn am mentrau-iaith.com
12.5.06
Yn dilyn fy sylw (dyfynnu fy hyn rwan - trist) ar fy mlog arall, hoffwn ofyn am sylwadau rhai pobl. Mae gwefan mentrau-iaith.com ar fin cael ei ail-wampio, ac mae Bwrdd yr Iaith wedi fy ngwahodd (ydy nhw'n gall?) i drafod synaidau am beth ddylsai fod arno. Dwi'n eitha hoffi edrychiad y wefan, ond does fawr neb arall yn, ond dwi ddim yn meddwl bod yr e-chlysur cystal ag y gallai fod.
Dwi ddim yn siwr iawn beth yn union sydd am gael ei newid - nac ychwaith pa wahaniaeth wnaiff fy adborth gan fod cwmni arall wedi cael y cytundeb ar gyfer y gwaith yn barod (ac felly wedi derbyn briff dybiwn?) ond dwi am fynd beth bynnag. Meddwl oeddwn i byddai cael ffrwd RSS neu ATOM yn ddefnyddiol, a'r gallu i ymchwilio yn ôl dyddiad/lleoliad/math o weithgaredd, yn debyg i beth ellir ei wneud ar wefan gwych Curiad.
Sgin rhywun arall sylwdau hoffn i mi eu pasio ymalen (rhai gweddus plîs)?