Blogiau Gwyrdd o Gymru
11.5.06
Dwi'n mwynhau darllen Blogiau Gwyrdd (gwelwch adran 'Cyfiawnder ac Amgylcheddol' ar fy blogroll), a thra mae'nt i gyd yn ddiddorol, dwi'n gweld diffyg slant lleol/Cymreig. Dwi wedi meddwl am ddechrau un fy hun (wel dau rili, un Cymraeg ac un Saesneg), ac fel arbrawf dyma fi'n dechrau Caerydd Gwyrdd, hyd yn oed yn prynnu enw parth, ond mae wedi dod i stop cynnar oherwydd trafferthion gyda meddalwedd Bitakora - mae'n debyg mi ddechreuai eto gyda Blogger.
Yn y cyfamser dwi wedi dod ar draws Organic Jac, sy'n union beth oedd gyda fi mewn golwg ar gyfer Caerdydd ond wedi ei selio ar Abertawe'n bennaf, ac hefyd gwefan Jamble. Mae Jamble yn gweld ei hun fel cylchgrawn ar-lein yn canolbwyntio ar deithio, cerddoriaeth a'r amgylchedd. Dois ar ei draws drwy ddamwain wedi iddynt sgwennu am hip-hop Cymraeg. Mae'nt yn rhestru MP3's maen't yn hoffi, ac i'r plebs yn eich mysg (ew dwi'n snob) mae ganddynt hefyd dudalen MySpace.
blogio, gwyrdd, amgylcheddol, cymru, cerddoriaeth, mp3
Generated By Technorati Tag Generator