<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Rhannu lluniau a straeon o'r daith i Wlad y Basg gyda SuprGlu

4.5.06

Mae na fwy o ansicrwydd eto rwan os fydd gêm Gwlad y Basg v Cymru'n cymeryd lle ar yr 20fed o Fai gyda chyngrhair Sbaen yn apelio i FIFA i gynnal gemau olaf y tymor ar yr un dyddiad. Ond yn y cyfamser dwi wedi cael syniad!

(Yawn!) Ok Rhys, be di'r synaid?
Yn fy mhost diwethaf, soniais am grŵp lluniau Flickr ar gyfer i gefnogwyr ar y daith rannnu llunaiu. Byddwn wedi hoffi mynd gam ymhellach a chael rhyw wefan fyddai'n ganolbwynt i'r daith ble fyddai pobl yn rhannu blogiadau am y peth. Y syniad tu ôl i hyn oedd gwefan stwnsh o'r enw SpyBlogak a ddyfeisiodd Basgwr ar gyfer dilyn beth oedd digwydd/ddigwyddodd mewn cynhadledd am y wê yn Bilbao mis diwethaf. Yn anffodus fydde ni ddim yn gwybod ble i ddechrau gyda creu y fath beth, felly anghfiais am y syniad.

Ond...
Ond ddoe, dyma Deiniol yn blogio am SuprGlu, sef rhaglen sdwnsh DIY, ble allwch ychwanegu ffrwd o'ch Blog, cyfrif Flick, nodau del.icio.us ayyb er mwyn iddynt gyd ymddangs yn yr un lle. Mae'n debyg i'r Blogiadur mewn ffordd, ond yn hytrach na darllen cynnwys gwahanol flogiau Cymraeg, byddai cyfrif SuprGlu yn darllen cynnwys gwefannau/ffrwd o'ch dewis chi.

Dwi ddim yn meddwl byddai'n defnyddio'r gwasanaeth hwn at ddefnydd fy personol gyda'm blog am lluniau Flickr fy hun yn unig, ond gallaf weld potential iddo ar gyfer rhannu lluniau a chasglu pyst o wahanol flogiau am bwnc arbennig - engrhaifft da yn fy marn i fyddai Eisteddfod 2006, beth chi'n feddwl?

Pawb dal yn ddefro?
Ok, dwi wedi agor cyfrif Suprglu ar gyfer y daith y Wlad y Basg, sydd i'w weld yma:

Galestarrak gara

Sut mae'n gweithio'n union?
Nid fi yw'r person gorau i esbonio, ond mae'n defnyddio tagiau a ffrwd
Beth fydd yn ymddangos yma fydd:
Pam dewis y tag 'galestarrakgara'?
Wel, ei ystyr yw 'Cymry ydym ni'/'Ni'n dod o Gymru', yn yr iaith Basgeg. Dwi'n cyfaddef ei fod yn air anghyfarwydd, ond mae'n werth dewis gair unigryw gan byddai defnyddio geiriau fel 'Welsh', 'Cymru' 'Football' neu 'I love Robbie Savage' wedi gallu codi nifer fawr o ddolenni anherthnasol.

Dwi ddim yn gwybod sut i dagio/sgyn ai'm mynedd tagio.
Digon teg, ond os allwch jyst cynnwys y gair galestarrakgara rhwyle o fewn eich pyst ar eich blog pan yn trafod y daith (efallai ar y diwedd), dylai dal weithio. Hefyd mae Rhys Wynne arall wedi dyfeisio rhaglen bach defnyddiol o'r enw'r Technorati Tag Generator sy'n gwneud tagio'n llawer haws.

, , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:34 am

0 sylw:

Gadawa sylw