Newyddion Da (am hyn o bryd)
23.2.05
Clywais newyddion da ddoe bod cynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynnu peidio mynd ymlaen gyda eu penderfyniad i gau nifer o ysgolion gwledig y sir, gan gynnwys fy nghyn-ysgol cynradd i sef Ysgol Pantpastynog, Prion. Er nad oedd bwriad gwreiddiol y cyngor yn annisgwyl oherwydd niferoedd presenol yr ysgol (sef 22 disgybl), mi oedd dal yn sioc. Yn amlwg mae hyn yn newyddion da, ond mae’n debyg y codith y mater hyn ei ben eto yn y dyfodol. Yr unig beth da efallai i ddod allan o hyn yw y gall yr ysgolion ar cymunedau baratoi o flaen llaw at rywbeth fel hyn yn y dyfodol, ac yn ôl beth ddywedodd fy rhieni roedd wedi dod a llawer o bobl at eu gilydd a chael pobl na fyddai fel arfer yn cymeryd rhan mewn protestiadau, sy’n beth da yn fy marn i. Unwaith eto, teimlais euogrwydd gan fy mod wedi symud i ffwrdd o fy mro. Euogrwydd yw fy enw canol ar hyn o bryd.
1 sylw:
sylw gan Leighton Andrews, 10:19 pm
dw'i wedi blogio yn Gymraeg ar y pwnc Dyfodol S4C.
Hwyl
Leighton