Gwell darpariaeth Band Llydan i ardaleodd gwledig?
18.2.05
O be dwi'n ddeall (sef dim llawer) mae bosib cael band llydan mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru yn barod, hyd yn oed mewn ardaleodd gwledig drwy loeren (neu malu cachu ydwi?) ond siawns bod nifer o lefydd sy'n dal heb gysylltiad. Eni we, dwi newydd ychwanegu Blog New Media Awards y Newstatesman i'm rhestr bloglines am ryw reswm, ac mae stori ddidorol o'r enw Owned by those they serve sy'n sôn am ISP bychain yn dod at eu gilydd i gystadlu'n erbyn BT ac NTL i ddarparu Band Llydan.
A group of internet service providers (ISPs) have got together to form a co-operative. They aim to improve their collective purchasing power and better compete in an increasingly tough market...
..It is hoped that the group will be able to tap into a niche market by supplying broadband in less commercially viable regions of the UK, which have been overlooked by the larger suppliers.
3 sylw:
Os ydy unrhywun â diddordeb seto i fyny grwp cydweithredol yn ardal Llangrannog, cysyllta â fi. Dw i wedi cael llond bol o drial cael BT i drwshio'n lein ni (sy'n wallus ers mis Hydref y llynedd). Dw i wedi colli pob ffydd yn BT fel cwmni trwy hyn i gyd. Dw i'n barod i ystyried unrhyw gynllun arall, hyd yn oed un sy'n costio mwy o arian, os ydw i'n gallu ffeindio ffordd o sicrhau cysylltiad cyflym a dibyniadwy i'r rhyngrwyd.
sylw gan Nic, 9:28 pm
This comment has been removed by a blog administrator.
Sori am hynny, ond dyna'r fath o beth sy'n digwydd trwy'r amser. Dw i byth yn gwybod os oes cysylltiad 'da fi, nes i mi drial postio rhywbeth, neu agor tudalen newydd.