<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Ymwelydd â'r Cynulliad

21.12.04

Dwi wedi bod ar flog Peter Black AC heddiw. Mae'n cyfrannu'n gyson ac mae'n rhoi ei safbwynt ar sawl pwnc, yn enwedig ei ddicter at rhywbeth rydym ni fel Cymry wedi dod i hen arfer gyda'n ddiwrddar sef diogrwydd newyddiaduraeth y Guardian. Ac fel sy'n digwydd pan ydych ar y we mae un gwefan/blog yn eich arwain yn annisgwyl at rai eraill diddorol, a dyma ddois i ar ei draws o ganlyniad i un Peter Black:

Blog Adam Taylor, myfyriwr o Brifysgol Warwick (beth chi'n feddwl o hyn? - sustem blogiau ar gyfer pawb yn y brifysgol!). Yma ceir hanes ei ymweliad â'r Cynulliad i gyfweld Nick Bourne. Yn anffodus iddo, digwyddodd ddewis diwrnod pan oedd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr yn gwrthdystio, ac ymddangosiad gan aelodau Tadau dros Gyfiawnder. Er na gafodd ei gyfweliad fe brofodd 'effeithlonrwydd' diogelwch yr adeilad! Mae ganddo adran o'r enw Wales, Nationalism and Identity ar ei flog, ond does dim byd yno ar hyn o bryd.

Yn aros yng y byd gwleidyddiaeth dois o hyd i'r ddau flog yma hefyd:
-
Inside Swansea Council
- Fel mae'r teitl yn ei awgrymu, blog rhywun sydd unai'n gweithio neu etholedig o fewn Cyngor Sir Dinas Abertawe. Byddai wedi bod yn ddiddorol cael darllen un gan rhywun o fewn Cyngor Sir Ynys Môn dros y blynyddoedd diwethaf!

Martin Shrewsbury - Blog gan Martin Shrewsbury, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.
postiwyd gan Rhys Wynne, 4:33 pm

3 sylw:

Diolch am y rhain Rhys. Rhai i ychwaneu at y rhestr Bloglines.
sylw gan Blogger Nic, 10:14 pm  

Mae hynna'n blydi annheg! Pam na ches i flog pan oeddwn i yn Warwick? Basdyds...
sylw gan Blogger cridlyn, 11:16 am  

Am ryw reswm, alla' i ddim mynd at adran sylwadau Peter Black, ond hoffwn ategu ei sylwadau ar newyddiaduraeth y Guardian. Y llynedd, cyn Cwpan Rygbi'r Byd, dyma nhw'n cyhoeddi erthygl 'ddifyr', yn rhoi arweiniad i'r gystadleuaeth...

"However, some question this version of rugby's history, variously claiming that its origins are Irish (derived from the game of caid), Welsh (criapan - that's the name of the game, not a description of the way the Welsh play it), Roman (harpastum) or Greek (episkyros)."

Wel, Guardian, petai chi wedi gwneud eich ymchwil, byddech chi'n gwbod mai CNAPAN yw enw'r gem.

Ond gwych nodi i'w hagwedd nawddoglyd at Gymru ffwcio lan yn eu hwynebau...

"A team with a very good kicker - someone like Neil Jenkins, who could land a penalty in Cardiff when playing in Swansea - can beat a much better team which relies on try scoring."

Beth, fel Lloegr yng Nghwpan y Byd, yn sgorio un cais o gymharu â thri Cymru?
sylw gan Blogger cridlyn, 4:11 pm  

Gadawa sylw