<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Ein hagwedd at weithgynhyrchu

8.12.04

Bydd James Dyson yn trafod agwedd yffredinol pobl ym Mhrydain tuag at weithgynhyrchu yn Narlith Dimbelby heno.
Dyma uchafbwyntiau y ddarlith Engineering the Difference. a fydd ar BBC1 am 11:15pm.
Dwi'n meddwl mai poeni mwy am ddelwedd y diwydiant a'r parch/sylw mae'n ei dderbyn y mae o yn hytrach nag effaith cymdeithasol/economaidd/amgylcheddol ayyb, wedi'r cyfan mae Dyson wedi ail-leoli eu cynhyrchu i Malaisia, ond dywedodd James Dyson fod y adran Ymchwil a Datblygu (R&D) yn parhau ym mhrydain a dyna ble mae'r elw diweddu. Dwi'n poeni llawer am economi Cymru a Phrydain ble mae glweidyddion yn twyllo eu hunain mae'r sector wasanaethau yw'r dyfodol. Yn bersonol dwi eisiau prynnu pethau wedi ei adeiladu yn y wlad hon (neu weddill Prydain), mae'n creu gwaith, yn golygu mantolen masnach iachach, osgoi prynnu pethau a gynhyrchwyd dan amodau gwaith anghyfreithlon, lleihau ein dibyniaeth ar wledydd eraill, ac yn golygu llai o danwydd yn cael ei ddefnyddio i gludo'r nwyddau.
Mae hwn yn engrhaifft gwirion ond mae Pot Noodles arferol yn cael eu cynhyrchu yn sir Caerffli, ond mae Posh Noodle yn cael ei gynhyrchu yn Thailand. Dwi ddim yn deall sut all cynhyrchu a cludo rhywbeth sydd mor rhad fod yn rhatach i'w wneud, yn amlwg ei fod o neu fyddai'r cwmni ddim yn ei wneud, ond sut?
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:52 am

0 sylw:

Gadawa sylw