Capeli Cymru
15.12.04
Tra'n chwilio am leoliad Eglwys Ebeneser Casnewydd ar gyfer fy mlog arall sef Dysgwyr De Ddwyrain, mi ddois ar draws y ddogfen PDF hwn, sef copi electroneg o lyfryn 'Capeli yng Nghymru - Cadwraeth a Thrawsnewid' dan CADW. Mae'n sôn ychydig am hanes a thraddodiad capeli yng nghymru, ond yn bennaf yn trafod eu sefyllfa heddiw, gyda nifer ohonynt mewn cyflwr gwael a ddim yn cael eu defnyddio i addoli. Mae yna nifer o luniau trawiadol o gapeli o bob cwr o Gymru.
Pan oeddwn i'n iau roeddwn yn mynd i'r capel Presbyteraidd pentef Prion ger Ddinbych. Er nad ydw i'n mynychu Capel bellach, mae'r golled gymdeithasol o'u cau yn amlwg ac hefyd mae gweld yr edeilad ei hun yn dirywio yn drist iawn hefyd. Ar 'trailer'i raglen diweddar roedd Huw Edwards yn dweud fod capel newydd yn agor pob 8 diwrnod yn ystod eu hoes aur - rhyfeddol.

1 sylw:
Ti'n mynd â fi nol nawr i ddyddie o ganu 'Draw draw yn Tseina' yn y capel 'na nawr... O diar diar mi...
sylw gan cridlyn, 1:57 pm