Pam y fath enw?
30.11.04
Mae'n debyg bod sawl un ohonch chi ddarllenwyr (gan obeithio bod sawl un ohonoch) yn ymwybodol yn barod, fel Bachgen o Bontllanfraith er engrhaifft, ond i'r rhai ohonoch sydd ddim, enw cân gan y grwp Datblygu yw e.
Dwi'n ddyledus iawn i ffrind i mi sef y bonheddwr Bleddyn (Blob i'w ffrindiau) a gyflwynodd fi i gerddoriaeth y grwp hwn pan oeddwn yn gweithio gyda'g ef yn 1999, ond yn anffodus roedd Datblygu wedi gorffen chwarae 4 mlynedd ynghynt yn 1995. Dyma eisampl berffaith o sefyllfa truenus cerddoriaeth cyfoes Cymraeg, sef bod rhywun fel fi sy'n Gymro Cymraeg a fynychodd ysgol uwchradd Cymraeg yn y 90'au yn gwybod dim am y sin ac felly methais Datblygu a Ffa Coffi Pawb. Dwi'n ymwybodol o'r ddau ohonynt rwan wrth gwrs ac yn ffodus mai yna adfywiad wedi bod yn y diddordeb ynddynt fel y rhyddhawyd CD gyda chasgliad o oreuon y ddau band. Gweler Wyau/Pyst/Libertino a Ffa Coffi Pawb Am Byth. Mae'n nhw'n ffycin gwych, ond peidiwch cymeryd fy ngair i am y peth, gwrandewch:
MP3'au Datblygu
MP3'au Ffa Coffi Pawb
Un peth bach arall, cyfweliad gyda Dave.

3 sylw:
sylw gan Nwdls, 7:30 am
Gyrrwr Tacsi ym Mangor yw hanes Bleddyn dyddiau hyn, ar ôl treulio cyfnod yn mesur lefelau llygredd mewn pridd uwchben tomenni tir-lenwi yn ne ddywrain Lloegr am gyfnod! Mi ddudai helo wrtho tro nesa welai o.
Ie, plis gwna.
Tacsis, pwy sa'n feddwl. Siwr fod bobol wrth eu bodda'n cael liffts gynno fo!

Rhaid cyfadda, dwi rioed di gallu gwirioni efo Datblygu yn yr un modd a ma pawb arall yn gneud de...ta waeth.