<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Israel

26.11.04

Israel
Dwi newydd ddechrau darllen Israel: A History er mwyn dod i wybod mwy am y wlad fechan gythryblus. Yn amlwg fe gymerith hi fwy na llyfr i ddeall beth sydd wedi digwydd ac sy'n parhau i ddigwydd, ond roeddwn eisiau ceisio beth gweld sydd wedi arwain pobl o'r ddwy ochr i gasau eu gilydd cymaint. Ni allaf gyfiawnhau y trais, ond dwi'n deall paham mae'n cymeryd lle gan y ddwy ochr i raddau. Er nad yw'r Cymry'n dioddef unrhywbeth fel y Palisteinaidd o fod yn y grwp o bobl gwahanol i fwyafrif poblogaeth y wladwriaeth mae'n t yn byw ynddo, mae tueddiad gennyf i ochri ychydig gyda nhw yn hytrach na'r Isreiliad. Yn y gorffennol dwi wedi ystyried sefydlu'r wlad fel peth ffôl ac yn ryw fath o indulgence gan yr Iddewon, wedi'r cyfan mond crefydd yw Iddewiaeth wedi'r cyfan. Ond wrth ddarllen y llyfr dwi'n sylweddoli bod yr Iddewon ar droad y 20fed ganrif yn cael eu herlyn yn Rwsia a Rwmania (ac yn wir ar draws Ewrop gyfan) ymhell cyn dyfodiad gwr o'r enw Adolf Hitler, ac efallai bod wir angen man arnynt i man arnynt, nid i greu rhyw fath o utopia Iddewig, ond jyst rhywle ble gallant fyw yn ddiogel a heddychlon. Dyna sy'n gwneud y sefyllfa heddiw mor anodd i'w ddeall gan fod y gorthrymedig rwan yn gorthrymu.
Yn ôl beth dwi wedi ei ddarllen hyd yn hyn, bwriad y mwyafrif o sylfaenwyr israel oedd creu cymdeithas ble gallai'r Iddewon fwy ochr yn ochr a'r boblogaeth Arabaidd bresenol a ble na fyddai dyfodiaid yr Iddewon yn amharu ar yr Arabiaid . Dwi ond wedi darllen hyd at y 1920'au hyd yn hyn ble mae poblogath yr Iddewig yn 50,000 ar yr un Arabaidd yn 500,00 (mwyafrif Arabaidd 10:1). Wrth gwrs mae llawer wedi digwydd ers hynny (annibyniaeth a dwy ryfel ble 'ennillwyd' tiroedd) ond mae'r boblogaeth Iddewig wedi cyrraedd 4 miliwn ac mae 1 miliwn o Arabiaid yn byw yn y wlad (mwyafrif 4:1 i'r Iddewon). Hyd yn oed gyda'r bwriad gorau, mae newid demograffeg fel hyn yn cael effaith negyddol ar yr Arabiaid.
Digwyddais glywed diwedd eitem ar Radio 4 ddoe am newidiadu mewn patrymau mudo i ac o Israel ymysg Iddewon o Rwsia, prif gyfranwr pobl i'r rhanbarth ers dros ganrif. Ymddengys bod llawer canran sylweddo o'r miliwn o adawodd Rwsia ers 1990 yn penderfynnu gadael am adref, wedi cael digon o'r caledi, rhai yn teimlo y caswant eu camrwain am beth i ddisgwyl, eraill yn gweld bod gwell cyfleoedd yn Rwsia i wneud arian. Hefyd mae arbennigwyr wedi sylweddoli bod y boblogaeth Arabaith gyda'r gallu i ddyblu mewn 20 mlynedd tra byddai'n cymeryd 70 mlynedd i'r boblogaeth Iddewig wneud hyn, dyna pam mae rhai o fewn yr awdurdodau yn cynnig byddai rhoi tiroedd yn ôl i'r Arabiaid yn well gan y byddai'n gwneud yr Israel a fyddai'n weddill, er yn llai, byddai'r wlad yn fwy 'Iddewig' ac felly'n gryfach.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:20 pm

0 sylw:

Gadawa sylw