<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Y 'Terfysgwr' labeli dwyieithog.

22.12.04

Cafod bachgen 14 oed o Gatalunia ei arestio am anfon e-byst at gwmniau yn mynnu eu bod yn labelu eu cynnyrch yn ddwyieithog. Dwi'n cofio darllen amdano'n cael ei arestio ac mae ei hanes yn y llys ar Eurolang. Nid yw'r bygythiadau a wnaed yn amlwg ond mae'r driniaeth mae wedi derbyn yn rhyfedd a dweud y lleiaf:

He had sent three e-mails to some supermarket chains and a milk manufacturer, asking them to re-label their products, and telling them that if they failed to reply before October 1st, he'd bombard them with more messages. The police took his computer and that of his 17 year-old brother.

Yesterday the boy sat before the Audiencia Nacional (Spanish National High Court) in Madrid, after being investigated last month for signing e-mails as “Phoenix Army” [ar ôl byddin yn llyfr Harry Potter].


Shit, dwi newydd anfon e-byst tebyg at Iceland ond yn fy enw fy hun.

Apart from the hearing which took place yesterday, the boy today faces a ‘psychological and social exam’ [fy mhwyslais] requested by the prosecuting authorities, which he will have to pass.


Mam bach, byddwn i'n siwr o beidio pasio'r profion hyn!
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:12 pm

2 sylw:

Ti'n lwcus ti ddim yn byw yn Sbaen 'te. Yr unig peth sy'n fy synnu fi am hyn yw bod y bachgen yn Gataleg, ac nid Basgeg, ei iaith.

Fel gor-ymateb i brotest pobl ifainc, mae hyn i fyny gyda'r ffws dros y band mewn ysgol yn Wyoming a oedd am ganu Masters of War Bob Dylan. Galwyd y Secret Service i mewn i'w stopio.
sylw gan Blogger Nic, 12:10 pm  

Hwre am y Patriot Act a deddfau cyffelyb yn Ewrop. Nawr, gallwn ni fod yn wyn, Protestanaidd ac Eingl-Sacsonaidd, a pheidio â poeni jot am fod yn wahanol a mynnu'n hawliau.
sylw gan Blogger cridlyn, 1:39 pm  

Gadawa sylw