<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



S.W.L.U.G.

22.12.04

Neithiwr dyma fi'n mentro draw i Shot in the Dark i gyfarfod South Wales Linux Users Group(SWLUG neu LUG). Rwyf wedi bod yn ymwybodol o feddalwedd rhydd/Linux ers dros flwyddyn gan fod llawer ar maes-e yn dallt y dalltin's gyda'r cyfrifiaduron, ond dwi erioed wedi gwneud dim am y peth oni bai am ymweld a gwefan Meddal a meddwl "ww, byddwn i'n hoffi cael popeth yn Gymraeg ar fy Mhenfwrdd (Desktop)".
Es i yno i wybod mwy am Feddawledd Rhydd ac hefyd i weld os fyddai un o'u haelodau gyda diddordeb dod i siarad ma Feddalwedd Rhydd yng nghyfarfod Busnes Brecwast nesaf Menter Iaith Caerffili. Cefais fy synnu cymaint oedd yn siarad Cymraeg, 6-7 dwi'n meddwl, doeddwn heb fod i gaffi/tafarn yn Nghaerdydd gyda cymaint o siaradwyr Cymraeg a dim un yn athro, cyfryngu na gwas sifil!
Doeddwn ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl o'r noson i ddweud y gwir' ond roedd yn gyfarfod anffurfiol/cymdeithasol, gyda phawb yn gyfeillgar iawn ac yn amyneddgar yn egluro pethau i mi.Ymysg y rhai a gwrddais oedd Telsa, Gareth o gwnmi Diogel (sydd gobeithio am ddod i Ystrad Mynach i'n Brecwast Busnes) a Dafydd o gwmni Ubuntu (a oedd yn garedig iawn yn rhoi CD i mi). Es i adref wedyn ac mi osodais AbiWord ar fy nghyfrifadur. Roeddwn wrth fy modd.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:09 am

1 sylw:

A lwyddaist ti i ddod o hyd i rywun i sgwrsio â Menter Iaith Caerffili yn y diwedd? Os na, anfon ebost ata i (rhys[at]sucs[dot]org) ac efallai y medrwn ni drefnu rhywbeth...
sylw gan Blogger Rhys, 6:47 am  

Gadawa sylw