<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Da yn dod o 'ddrwg'

10.10.07

Cefais sgwrs meddw gyda'g un o'm ffrindiau'n ddwieddar ble reodd y ddau ohonom o'r farn byddwn ni'n mynd nôl i ddefnyddio'r ceffyl a chert yn y dyfodol pan na fydd cyflenwad olew mor rhad/hawdd i gael gafael arno. Dwi'n meddwl llawer am y dyfodol (cymharol agos) ble dwi'n rhagwled newid mawr yn ein ffordd o fyw oherwydd newid hinsawdd ac hefyd newidiadau economaidd ac o bosib gwleidyddol a allai effeithio ar ein cyflenwad bwyd ac ynni.

Dwi'n ceisio peidio sôn gormod amdanynt rhag swnio'n rhy apocolyptaidd neu fel rhyw fath o Oroeswr! Dyma pam dwi wedi bod yn mwynhau darllen blog Mympwy gan Aran Jones. Mae'r blog yn ardderchog, yn trafod nifer o bethau dwys yn ymwneud â chymdeithas. Yn ddiweddar mae Aran wedi bod yn ysgrifennu llawer am Copa Olew (Peak Oil) ac yn gofyn beth fydd oblygiadau hyn a'r gymdeithas, yn fwy penodol sut all cymunedau llai ymdopi ac efallai manteisio â'r sefyllfa, ac hefyd oes modd paratoi amdano.

Yn ddiweddar darllenais stori ddifyr yn y Guardian am sut bu lleihad sylweddol mewn achosion o glefyd y galon, clefyd y siwgr a gordewdra yng ngwlad Ciwba yn ystod hanner cyntaf y 1990'au yn dilyn cwymp yr Undeb Sofietadd a oedd yn ariannu'r wlad ac hefyd gan bod UDA yn gwahardd allforion i'r wlad. Golygai hyn bod prinder mewn olew, ac felly dechreuodd pobl gerdded a beicio mwy, a gan bod pobl yn llai ariannog, nid oeddynt yn tuaeddu bwyta cymaint. Dwi ddim yn dweud bod Ciwba'n rhyw fath o Iwtopia (fel mae ambell i gomiwnydd ym Mhrydain weithiau'n honni), ond mae sgil-effeithiau positif wedi dod o newidiadau gwleidyddol allanol.

Effaith arall diffyg olew oedd bod rhaid newid dulliau cynhyrchu bwyd. Yn un peth nid yw'n bosib ei gludo dros bellterau, ac hefyd nid oes modd defnyddio peiriannau mawrion a chemegau, felly rhaid defnyddio nerth anifeiliaid neu dyn (neu ferch!) i wneud y gwaith ac mae'n rhaid bod yn organig a defnyddio dulliau gwrtheithio mwy naturiol (dwi'n gwneud hyn yn barod drwy biso ar fy nhmoen compost pan yn dod adre'n feddw a mae rhywun yn y tŷ bach). Golygai hyn byddai bywyd yn tipyn caletach arnom yn gorfforol, ond byddai eto'n golygu mwy o ymarfer corff a byddai pobl yn fwy heini a chryfach. Hefyd byddai angen mwy o bobl i weithio ar y tir - roedd Saunders yn iawn wedi'r cyfan! (jôc oedd hynna gyda llaw rhag ofn bod rhywun o Lafur Newydd yn darllen).

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:49 am | dolen | 5 sylw |